Sut i ymgeisio am ganiatâd i fasnachu ar y stryd

I wneud cais am ganiatâd i fasnachu ar y stryd, mae’n rhaid i fasnachwyr:

  • fod yn 17 oed neu hŷn
  • sicrhau bod eu gweithgarwch yn cydymffurfio gyda phob deddfwriaeth arall, megis:
    • diogelwch bwyd
    • iechyd a diogelwch
    • cynllunio
    • priffyrdd
  • cael caniatâd gan berchennog y tir

Sut i wneud cais

I wneud cais am ganiatâd i fasnachu ar y stryd, bydd angen i chi gwblhau ffurflen gais a darparu:

  • llun pasbort
  • un math o brawf adnabod
  • amserlen weithredu (yn cynnwys map/cynllun safle a’r nwyddau ar werth)
  • asesiad risg
  • llun o’ch stondin / cerbyd
  • caniatâd ysgrifenedig gan berchennog y tir
  • tystiolaeth o yswiriant atebolrwydd cyhoeddus

Ffurflen Gais

Ffurflen gais am ganiatâd i fasnachu ar y stryd (MS Word, 1.6MB).

Ffioedd

Os cymeradwyir cais, bydd angen talu ffi yn seiliedig ar gyfnod y caniatâd. Mae’r tabl isod yn dangos y ffioedd ar gyfer bob cyfnod:

Ffioedd caniatâd i fasnachu ar y stryd
Hyd y caniatâdFfi
 1 diwrnod £50 
 1 wythnos £150 
 1 mis £225 
 3 mis £650 
 6 mis £1,200 
 12 mis £2,000 

Ar ôl gwneud cais

Unwaith y byddwn yn derbyn cais llawn:

  1. byddwn yn cynnal asesiad o’r safle i wirio a yw’r safle’n addas
  2. bydd cyfnod ymgynghori o 28 diwrnod gyda:
    • Heddlu Gogledd Cymru
    • Diogelwch Bwyd
    • Iechyd a Diogelwch
    • Cynllunio
    • Iechyd yr Amgylchedd 
    • Tân ac Achub
    • Safonau Masnach
    • Aelodau Ward Lleol
  3. bydd adroddiad yn cael ei baratoi a’i anfon at y Pennaeth Gwasanaeth a Chadeirydd Trwyddedu
  4. bydd yr ymgeisydd yn cael ei hysbysu ynghylch y penderfyniad
  5. os cymeradwyir y cais, byddwn yn cysylltu â chi am dâl

Dirwyon a chosbau

Gellir cymryd camau gorfodi os bydd rhywun yn:

  • masnachu heb ganiatâd i fasnachu ar y stryd neu’r drwydded ofynnol
  • masnachu ar stryd ble mae masnachu wedi’i wahardd
  • peidio â chadw at amodau eu caniatâd masnachu ar y stryd

Gall camau gorfodi gynnwys:

  • atal neu dynnu’r caniatâd i fasnachu ar y stryd neu’r drwydded ofynnol yn ôl
  • dirwyon hyd at £1,000