Masnachu ar y stryd: faniau hufen iâ
Er mwyn gweithredu fan hufen iâ yn Sir Ddinbych, bydd angen i chi ddilyn rheolau penodol o ran lle gallwch chi fasnachu a pha ganiatâd sydd ei angen arnoch er mwyn cydymffurfio â’r rheolau.
Amodau masnachu
Os ydych chi’n gweithredu fan hufen iâ yn Sir Ddinbych, mae’n rhaid i chi ddilyn yr amodau masnachu hyn:
- mae’n rhaid i chi symud eich fan hufen iâ i wahanol leoliadau yn rheolaidd
- peidiwch ag aros mewn un lle am fwy na 15 munud i fasnachu
- peidiwch â dychwelyd i’r un stryd ar yr un diwrnod i fasnachu
- peidiwch â masnachu ar stryd lle mae masnachu wedi’i wahardd
Cofrestru busnes bwyd
Os ydych chi’n berchen ar fan hufen iâ neu wedi cymryd cyfrifoldeb dros un yn Sir Ddinbych, mae’n rhaid i chi gofrestru eich busnes gyda’r Cyngor o leiaf 28 diwrnod cyn i chi ddechrau masnachu.
Darganfod mwy am gofrestru busnes bwyd.
Dirwyon a chosbau
Gellir cymryd camau gorfodi os bydd rhywun yn:
- masnachu heb ganiatâd i fasnachu ar y stryd neu’r drwydded ofynnol
- masnachu ar stryd ble mae masnachu wedi’i wahardd
- peidio â chadw at amodau eu caniatâd masnachu ar y stryd
Gall camau gorfodi gynnwys:
- atal neu dynnu’r caniatâd i fasnachu ar y stryd neu’r drwydded ofynnol yn ôl
- dirwyon hyd at £1,000