Masnachu mewn marchnadoedd a digwyddiadau
Wrth fasnachu mewn marchnadoedd neu ddigwyddiadau yn Sir Ddinbych, efallai y bydd angen caniatâd yn dibynnu ar y math o nwyddau sy’n cael eu gwerthu a’r lleoliad.
Rydym wrthi’n adolygu ein polisi masnachu ar y stryd sy’n golygu efallai y bydd y gofynion hyn yn newid yn y dyfodol.
Marchnadoedd gyda phump neu fwy o stondinau
Os oes gan ddigwyddiad bump neu fwy o stondinau, bydd y gweithgarwch masnachu yn cael ei ddosbarthu fel marchnad ac ni fydd angen caniatâd i fasnachu ar y stryd. Bydd angen i’r trefnydd wneud yn siŵr bod ganddynt unrhyw ganiatâd perthnasol arall.
Gall trefnwyr digwyddiadau ein hysbysu ynglŷn â digwyddiad ar-lein. Mwy o wybodaeth am gynnal digwyddiad yn Sir Ddinbych.
Digwyddiadau gyda phedair neu lai o stondinau
Os oes gan ddigwyddiad bedair neu lai o stondinau, bydd angen i bob stondinwr wneud cais am ganiatâd i fasnachu ar y stryd.
Gwybodaeth am sut i ymgeisio am ganiatâd i fasnachu ar y stryd.
Gwerthu alcohol, lluniaeth hwyr y nos ac adloniant
Ar gyfer unrhyw ddigwyddiad neu farchnad sy’n cynnig gwerthu alcohol, lluniaeth hwyr y nos neu adloniant wedi’i reoleiddio (megis cerddoriaeth fyw neu wedi’i recordio), bydd angen i’r trefnydd wneud cais am Rybudd Digwyddiad Dros Dro neu Drwydded Eiddo.
Nid oes angen trwydded ar gyfer adloniant os nad yw’r adloniant hwnnw yn brif reswm dros fynychu’r digwyddiad (e.e. cerddoriaeth gefndir).
Rhybuddion Digwyddiad Dros Dro
Mae angen Rhybudd Digwyddiad Dros Dro ar gyfer digwyddiad sy’n cynnwys gwerthu alcohol, cynnig lluniaeth hwyr y nos (gwerthu bwyd poeth neu ddiodydd poeth rhwng 11pm a 5am) neu’n cynnig adloniant ar sail dros dro. Mae’n berthnasol i ddigwyddiadau tymor byr ac mae’n rhaid ei drefnu ymlaen llaw.
Mwy o wybodaeth am Rybuddion Digwyddiad Dros Dro.
Trwydded eiddo
Mae angen trwydded eiddo pan fo alcohol yn cael ei werthu mewn digwyddiad ar sawl diwrnod neu fel rhan o gyfres o ddigwyddiadau.
Mwy o wybodaeth am drwyddedau eiddo.
Caniatâd y perchennog tir
Mae angen caniatâd gan y perchennog tir i ddefnyddio’r gofod digwyddiadau, p’un a yw ar dir preifat neu gyhoeddus.
Gwybodaeth am ganiatâd i ddefnyddio tir ar gyfer masnachu.
Cau ffyrdd
Os yw’r digwyddiad yn effeithio ar ffyrdd cyhoeddus, mae angen cymeradwyaeth i’w cau neu eu cyfyngu.
Ewch i’n tudalen ar geisiadau cau ffyrdd am fwy o wybodaeth.
Dirwyon a chosbau
Gellir cymryd camau gorfodi os bydd rhywun yn:
- masnachu heb ganiatâd i fasnachu ar y stryd neu’r drwydded ofynnol
- masnachu ar stryd ble mae masnachu wedi’i wahardd
- peidio â chadw at amodau eu caniatâd masnachu ar y stryd
Gall camau gorfodi gynnwys:
- atal neu dynnu’r caniatâd i fasnachu ar y stryd neu’r drwydded ofynnol yn ôl
- dirwyon hyd at £1,000