Trwyddedau metel sgrap

Os ydych chi'n rhedeg busnes metel sgrap neu fusnes arbed ceir yn Sir Ddinbych mae'n rhaid i chi gael trwydded gan y cyngor.

Ers newid y gyfraith ym mis Hydref 2013, mae gweithredu heb drwydded bellach yn drosedd.

Pa fath o drwydded sydd arnaf ei hangen?

Mae'n rhaid i chi wneud cais am drwydded:

  • os ydych chi'n prynu neu'n gwewrthu metel sgrap (p'un ai yw'n cael ei werthu yn y ffurf y cafodd ei brynu neu beidio)
  • os ydych chi'n arbed rhannau o gerbydau modur i'w hailddefnyddio, ac yn gwerthu gweddill y cerbyd fel sgrap

Mae dau fath o drwydded - trwydded safle a thrywdded casglu.

Trwydded safle

Mae trywdded safle yn caniatáu i chi fasnachu fel deliwr metel sgrap ar unrhyw safle, neu fwy nag un safle, yn Sir Ddinbych. Mae'n rhaid i chi enwi rheolwr safle ar gyfer pob safle.

Os oes arnoch chi eisiau masnachu mewn sir arall, bydd arnoch angen gwneud cais am drwydded i awdurdod lleol yr ardal honno hefyd.

Trwydded casglu

Mae trwydded casglu yn eich galluogi i fasnachu fel casglwr symudol, a gwerthu neu waredu metel yn Sir Ddinbych. Mae hyn yn cynnwys gwerthu a chael gwared ar rannau o gerbydau modur. Nid yw trwydded casglu yn eich awdurdodi i weithredu safle.

Mae trwydded casglu a gyhoeddir gennym ni ond yn eich caniatáu i weithredu fel casglwr yn Sir Ddinbych. Os oes arnoch chi eisiau casglu mewn mwy nag un ardal awdurdod lleol, bydd arnoch chi angen gwneud cais am drwydded casglu i bob cyngor ar wahân.

Fedrwch chi ddim dal trywdded safle a thrwydded casglu yn yr un awdurdod lleol, ond gallwch dderbyn trwydded safle ar gyfer un awdurdod a thrwydded casglu ar gyfer awdurdod arall.

Am ba hyd y mae'r trwyddedau'n para?

Bydd y trwyddedau yn para 3 blynedd.

Sut ydw i'n gwneud cais am drwydded metel sgrap?

I wneud cais am drwydded, rhaid i chi lenwi ffurflen gais a chynnwys:

Ffurflenni

Faint mae'n gostio?

  • Caniatáu trwydded safle sy’n para 3 blynedd: £343
  • Adnewyddu trwydded safle (3 blynedd): £263
  • Caniatáu trwydded casglu sy’n para 3 blynedd: £192
  • Adnewyddu trwydded casglu (3 blynedd): £148
  • Amrywio trwydded Safle/Casglu: £69

Sut y gallaf dalu?

Gellir talu â cherdyn dros y ffôn i wasanaethau cwsmeriaid (01824 706000). Mae taliad gyda siec neu arian parod ar gael yn un o Siopau Un Alwad Sir Ddinbych yn unig. Cysylltwch â ni i gael y cyfeirnod priodol cyn ceisio talu. Gall methu â darparu’r cyfeirnod priodol achosi oedi gyda’ch cais

Mwy gwybodaeth

Bydd manylion cyfyngedig pawb sy’n dal trwydded yn cael eu rhoi ar y gofrestr gyhoeddus ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru (gwefan allanol).