Nodiadau canllaw ar gyfer llenwi eich ffurflen gais trwydded gyrrwr tacsi

Mae’n rhaid gwneud pob cais i fod yn yrrwr tacsi trwy lenwi ffurflen gais. Mae’r nodiadau canllaw hyn yn esbonio prif adrannau’r ffurflen ymhellach. Os na fyddwch chi’n llenwi’r ffurflen ac yn darparu’r dogfennau angenrheidiol, fe all hynny arwain at oedi wrth ystyried eich cais.

Llenwch y ffurflen mewn llythrennau bras ac mewn inc. Peidiwch â defnyddio talfyriadau na hylif papur (tippex).

Cynnwys


Adran 1 – Math o Gais

Ticiwch bob blwch perthnasol.

Yn ôl i'r cynnwys


Adran 2 – Manylion y Drwydded – Ymgeliswyr sy’n adnewyddu yn unig

Mae’r adran hon ar gyfer gyrwyr cyfredol sy’n adnewyddu eu trwyddedau. Rhowch y cyfeirnod gyrrwr a’r dyddiad dod i ben. Bydd y rhain ar eich trwydded bapur a’ch bathodyn gyrrwr.

Yn ôl i'r cynnwys


Adrannauu 3 i 9 - Ymgeisydd

Llenwch bob adran. Rydym ni’n annog pawb i ddarparu cyfeiriad e-bost cyfredol gan fod hyn yn gwneud pethau’n haws i chi dderbyn hysbysiadau adnewyddu a gwybodaeth am ddigwyddiadau o ddiddordeb/digwyddiadau pwysig. Hefyd, mae mwy o’n busnes craidd yn symud tuag at ddefnyddio dulliau electronig o wneud cais am wiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a’r DVLA, ac mae cael cyfeiriad e-bost yn hanfodol ar eu cyfer. Gall unigolion gael cyfrif e-bost am ddim trwy nifer o ddarparwyr gwasanaeth e.e. “gmail”, “Hotmail”, “icloud”, ac ati.

Yn ôl i'r cynnwys


Adran 10 – Hawl i weithio yn y DU

Er bod hwn yn gwestiwn cyffredinol ar gyfer bob ymgeisydd, mae'n ofyniad hanfodol i bob ymgeisydd newydd gynhyrchu tystiolaeth ar ffurf dogfen cyn y gellir prosesu cais. Nid oes angen i yrwyr cyfredol sy’n adnewyddu eu ceisiadau ddarparu rhagor o ddogfennau gan fod y broses eisoes wedi’i chynnal mewn ceisiadau blaenorol. Cyfeiriwch at Nodyn Cyfarwyddyd 1 ynghlwm.

Yn ôl i'r cynnwys


Adran 11 – Euogfarnau

Bydd yn rhaid i ymgeiswyr wneud yn siŵr eu bod yn llenwi’r adran hon yn ofalus gan y bydd unrhyw fethiant i ddatgan unrhyw wybodaeth yn arwain at oedi wrth wneud penderfyniad ynghylch y cais, a gall arwain at wrthod a/neu erlyn.

Wrth gyflwyno cais am drwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat, mae’n rhaid i chi ddatgan BOB euogfarn, rhybudd neu orchymyn blaenorol, ac unrhyw erlyniadau yn yr arfaeth. Mae’n rhaid i chi gynnwys unrhyw euogfarn a roddwyd yn dilyn erlyniad gan unrhyw sefydliad (nid yr heddlu yn unig).

Oherwydd natur y swydd – gyrrwr tacsi – gall yr awdurdod trwyddedu ystyried pob euogfarn, pa un ai ydynt wedi dod i ben ai peidio.

Rhan bwysig o gais gyrrwr tacsi yw’r hanes gyrru. Rydym ni’n argymell bod pob gyrrwr yn edrych ar eu cofnod gyrru DVLA wrth lenwi’r cais. Mae’r cofnodion hyn ar gael ar y wefan ganlynol: gov.uk/gweld-neu-rannu-eich-gwybodaeth-trwydded-yrru (gwefan allanol). Mewn perthynas ag euogfarnau moduro, dylai ymgeiswyr nodi pob euogfarn sy’n weithredol ar eu cofnod. Er bod hyn fel arfer yn hyd at 3 blynedd o ddyddiad yr euogfarn, gall amrywio weithiau.

Bydd pob cais yn cael ei ystyried ar ei ben ei hun ac yn ôl ei deilyngdod ei hun, a gan ddeall hanes unigolion mewn perthynas ag euogfarnau. Mae hon yn agwedd bwysig o benderfynu a yw unigolyn yn berson addas a phriodol i fod â thrwydded. Cyfeiriwch at Nodyn Cyfarwyddyd 2 mewn perthynas â Pholisi Euogfarnau’r Cyngor.

Bydd cofnodion yn cael eu cadw yn gyfrinachol, ac yn cael eu defnyddio i wneud penderfyniad ynglŷn â’ch cais yn unig. Oni bai bod gofyniad cyfreithiol i wneud hynny, ni fyddant yn cael eu datgelu i unrhyw ffynhonnell arall.

Ni allwn roi trwydded i berson nad yw wedi bod â thrwydded yrru lawn am o leiaf 12 mis ar ddyddiad y cais.

Os oes angen, pan nad yw’r gwagle yn 11a yn ddigonol, dylech barhau ar ddarn arall o bapur a’i atodi gyda’ch cais. Rhowch eich enw a’ch dyddiad geni ar dop y darn papur arall.

Yn ôl i'r cynnwys


Adran 12 - Euogfarnau neu Rybuddion Arfaethedig

Mae’r adran hon yn debyg i Adran 11 o ran yr euogfarnau sydd gennych. Ond, mae’n gofyn i ymgeiswyr restru unrhyw euogfarn neu rybudd arfaethedig, o unrhyw fath a gan unrhyw sefydliad (gan gynnwys rhai moduro). Byddai disgwyl i ymgeiswyr wybod am unrhyw achosion arfaethedig yn eu herbyn.

Yn ôl i'r cynnwys


Adran 13 - Newid Amgylchiadau Meddygol (ymgeiswyr sy’n adnewyddu yn unig)

Mae’r adran hon yn cyfeirio at yrwyr cyfredol sy’n bwriadu adnewyddu eu trwyddedau. Mae’r awdurdod trwyddedu yn ceisio cadarnhad nad yw amgylchiadau meddygol ymgeiswyr dan 60 oed, ac sydd ddim angen gwiriad meddygol ar hyn o bryd, wedi newid ers cael eu trwydded yrru ddiwethaf.

Yn ôl i'r cynnwys


Adran 14 - Ffitrwydd Meddygol

Mae’r adran yn berthnasol i bob ymgeisydd. Mae’n rhaid i’r awdurdod trwyddedu wybod a oes unrhyw reswm pam y byddai ymgeiswyr yn credu na fyddent yn gallu gyrru neu gynorthwyo teithwyr. Bydd ymgeiswyr yn ymwybodol bod dyletswydd arnynt i gynorthwyo defnyddwyr anabl fel sy’n briodol neu helpu teithwyr gyda bagiau. Dylai ymgeiswyr ddefnyddio’r adran hon i amlinellu, er enghraifft, y rhesymau pam na fyddent yn gallu rhoi’r cymorth hwn. Mae’n bosibl y bydd ar ymgeiswyr angen darparu tystiolaeth gan eu meddyg i gefnogi eu cais.

Yn ôl i'r cynnwys


Adran 15 - Trwyddedau Eraill

Rhowch wybod i ni os oes gennych drwydded i yrru tacsi mewn unrhyw awdurdod arall.

Yn ôl i'r cynnwys


Adran 16 - Trwyddedau a wrthodwyd, a ddiddymwyd neu a ataliwyd

Dylai ymgeiswyr ddatgan a yw eu trwydded wedi’i atal neu ei ddiddymu yn y gorffennol, neu a oes cais wedi’i wrthod gan unrhyw awdurdod arall. Os mai dyma’r achos, bydd yn rhaid i chi roi’r dyddiad atal neu ddiddymu yn ogystal ag enw’r awdurdod. Ni fydd gwybodaeth a roddir yma yn eich atal yn awtomatig rhag cael trwydded gan yr ystyrir pob cais yn ôl ei deilyngdod ei hun.

Yn ôl i'r cynnwys


Adran 17 -  Manylion y Gweithredwr

Os yw’n berthnasol, dylai ymgeiswyr nodi eu cyflogwr cyfredol neu ddarpar gyflogwr. Mae hyn yn helpu’r awdurdod i gysylltu â chi pan na allwn gysylltu â chi yn defnyddio’r manylion rydych chi wedi'u rhoi, neu mewn argyfwng.

Yn ôl i'r cynnwys


Adran 18 - Cludiant i'r Ysgol

Dylai ymgeiswyr nodi a ydynt yn bwriadu gwneud gwaith cludiant i'r ysgol yn Sir Ddinbych. Bydd hyn yn ein galluogi i rannu gwybodaeth gyfyngedig gyda chydweithwyr sy’n ymdrin â chludiant i’r ysgol yn Sir Ddinbych, ond dylai ymgeiswyr nodi nad yw cwblhau’r adran hon yn eu hawdurdodi i wneud gwaith cludiant i'r ysgol. Bydd yr adran Cludiant Teithwyr yn gweinyddu pob cais am waith o’r fath, a gellir eu ffonio ar 01824 706994.

Yn ôl i'r cynnwys


Adran 19 - Eitemau Amgaeedig

  • Dylai ymgeiswyr nodi eu bod wedi talu’r ffi ofynnol. Gallwch dalu gydag arian neu siec mewn Siop Un Alwad (mewn llyfrgelloedd) cyn cyflwyno'r cais. Rhowch rif eich derbynneb a dyddiad y taliad i ni os gwnaethoch dalu yn y dull hwn. Fel arall gallwch ffonio Gwasanaethau i Gwsmeriaid ar 01824 706000 a gofyn i wneud taliad i Drwyddedu (arhoswch am weithredwr ar ôl y dewisiadau), gan ddarparu cod gost cywir (gofynnwch i Drwyddedu amdano) a’ch enw fel cyfeirnod. Rhowch rif eich derbynneb a dyddiad y taliad i ni os gwnaethoch dalu yn y dull hwn.
  • Un llun lliw maint pasbort, yn erbyn cefndir o liw gwahanol, ac mae’n rhaid iddo fod o debygrwydd amlwg i’r ymgeisydd. Bydd eich llun yn cael ei sganio a’i ddinistrio, neu ei ddychwelyd atoch os yw hynny’n well gennych chi.
  • Trwydded yrru gyfredol, dilys, gyda llun, ac yn dangos eich cyfeiriad cywir
  • Mae’n rhaid i ymgeiswyr wneud cais am wiriad DVLA trwy TaxiPlus. Dylai ymgeiswyr fod yn ofalus wrth lenwi manylion gan y bydd camgymeriadau yn arwain at oedi yn y broses ymgeisio.
  • Mae’n rhaid i bob ymgeisydd newydd roi tystiolaeth o’u hawl i weithio yn y DU. Cyfeiriwch at Nodyn Cyfarwyddyd 1 i gael manylion y dogfennau a dderbynnir fel tystiolaeth
  • Tystysgrif feddygol a roddwyd gan ymarferydd meddygol yr ymgeisydd yn dangos eu bod yn feddygol abl i wneud y dyletswyddau sydd ynghlwm wrth yrru Cerbyd Hacni neu Gerbyd Hurio Preifat
  • Bydd yn rhaid i unrhyw ymgeisydd nad yw wedi byw yn y DU am y 5 mlynedd diwethaf gael Tystysgrif Ymddygiad Da gan yr awdurdod perthnasol ar gyfer gwlad y tu allan i’r DU. Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw hyn

Yn ôl i'r cynnwys


Adran 20 - Datganiad

Mae’n rhaid i ymgeiswyr roi tic yn y bocsys perthnasol ac wrth wneud hynny maent yn datgan eu bod:-

  • Wedi darllen a deall y gofynion mewn perthynas â datgan euogfarnau – cyfeiriwch at Nodyn Cyfarwyddyd 2 mewn perthynas â Pholisi Euogfarnau’r Cyngor.
  • Wedi darllen a deall yr amodau trwyddedu. Mae copïau o’r dogfennau hyn ar gael ar-lein. Ni fydd fersiwn papur yn cael ei ddarparu nes y bydd y cais yn cael ei dderbyn, ac mewn pryd ar gyfer y prawf gwybodaeth.
  • Yn deall na ddylent yrru nes bydd trwydded wedi’i roi.
  • Ddim wedi byw mewn unrhyw wlad ac eithrio’r DU am gyfnod o un flwyddyn neu fwy yn y 5 mlynedd diwethaf. Os na all ymgeiswyr fodloni’r gofyniad hwn, bydd yn rhaid iddynt gyflwyno Tystysgrif Ymddygiad Da
  • Wedi gwneud cais am dystysgrif y gwasanaeth datgelu a gwahardd a deall na ellir rhoi trwydded nes y bydd tystysgrif y gwasanaeth datgelu a gwahardd wedi’i roi i’r awdurdod trwyddedu. Dylai ymgeiswyr nodi mai eu cyfrifoldeb nhw yw cysylltu â’r adran drwyddedu pan fyddant wedi cael eu tystysgrif, ac y byddant yn cael canllawiau pellach ar y broses. Dylai ymgeiswyr gyfeirio at y canllawiau ar wahân ar gwblhau’r broses gwneud cais i’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar-lein.

Mae’n rhaid i’r manylion a’r atebion rydych chi wedi’u darparu fod yn wir, yn gyflawn ac yn gywir. Os daw i’r amlwg, ar ôl rhoi trwydded, eich bod wedi hepgor unrhyw fanylion pwysig neu roi gwybodaeth ffug, gallwch gael eich erlyn a/neu gallwn ddiddymu/atal eich trwydded.

Yn ôl i'r cynnwys


Adran 21 - Llofnod

Dylai ymgeiswyr ddarllen yr adran ynglŷn â’r hyn a fydd yn digwydd i’ch gwybodaeth a’r datganiadau sy’n gysylltiedig â’r cais. Bydd ymgeiswyr, trwy lofnodi'r ffurflen, yn datgan eu bod wedi darparu'r holl wybodaeth, a'i bod yn gywir. Maent hefyd yn rhoi caniatâd i’r awdurdod ofyn am unrhyw wybodaeth y maent yn ei gredu sy’n berthnasol i wneud penderfyniad ynglŷn â’r cais. Nodwch nad yw’r sefydliadau a restrir yn rhestr gynhwysfawr, a gellir ei ehangu yn dibynnu ar yr amgylchiadau.

Llofnodwch, a phrintiwch eich enw, a rhowch y dyddiad ar y ffurflen gais.