Pecyn Ymgeisio Gyrwyr Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Prefat

Bydd y tudalen hon yn eich tywys drwy’r broses ymgeisio a’r rhagofynion (prawf gwybodaeth, gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd h.y. gwiriad Heddlu, meddygol). Argymhellir eich bod yn darllen y canllawiau i ddechrau gan y byddant yn eich arwain drwy’r broses ymgeisio mewn trefn. 

Cyfieriwch at y canlynol

  1. Ffurflen Gais
  2. Nodiadau Canllaw ar gyfer Llenwi eich Ffurflen Gais
  3. Nodiadau canllaw Hawl i Weithio
  4. Datganiad polisi ynghylch addasrwydd ymgeiswyr a thrwyddedau yn y masnachau cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat
  5. Tystysgrif Feddygol
  6. Tabl o’r ffioedd cyfredol
  7. Nodiadau Canllaw’r Prawf Gwybodaeth
  8. Hysbysiad Preifatrwydd Trwyddedu Sir Ddinbych, yn cynnwys Polisi NR3

Sut I ymgeisio

Yn gyntaf bydd arnoch chi angen:

  • Llenwi eich ffurflen gais
  • Gwneud cais am eich gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) ar-lein drwy ddolen ar wefan Cyngor Sir Ddinbych: Gwefan TaxiPlus (gwefan allanol)

Gweler y canllawiau perthnasol wrth lenwi pop ffurflen

Unwaith y byddwch wedi gwneud cais am eich gwiriadau’r GDG a gwiriadau’r DVLA drwy ddilyn y ddolen uchod, bydd yn rhaid i chi gasglu’r wybodaeth/dogfennau canlynol i’w cyflwyno i’r adran drwyddedu:

  • Ffurflen Gais
  • Tystysgrif feddygol – mae’n bosib y bydd hon yn dilyn yn hwyrach (ond cyn penderfynu ar y drwydded)
  • Dogfen adnabod Hawl i Weithio - gweler nodiadau 3
  • Trwydded cerdyn llun DVLA
  • Ffioedd cyfredol (gweler y rhestr ffioedd amgaeedig) – cysylltwch â’r Adain Drwyddedu i drafod y taliad ar 01824 706342
  • 1 llun maint pasbort

Sicrhewch fod yr holl ddogfennau hyn wedi’u cwblhau’n llawn cyn eich apwyntiad er mwyn arbed amser. Bydd methu cyflwyno rhai dogfennau i’r Adain Drwyddedu’n arwain at oedi wrth brosesu eich cais.

Bydd yr Awdurdod Trwyddedu’n gwneud gwiriadau mewnfudo yn unol â Deddf Mewnfudo 2016. Bydd yn rhaid i bob ymgeisydd gyflwyno naill ai Pasbort neu Dystysgrif Geni Llawn y DU yn bersonol i Swyddfa Dinbych (bydd yn rhaid i chi hefyd ddangos dogfen yswiriant gwladol ynghyd â Thystysgrif Geni llawn y DU) i alluogi’r Awdurdod Trwyddedu i gadarnhau eich cymhwysedd i weithio yn y DU.

Dylai ymgeiswyr nad oes ganddynt Basbort na Thystysgrif Geni’r DU wirio’r rhestr sydd ynghlwm o ddogfennau derbyniol. Gallwch ddod â Cherdyn Adnabod gyda chi pan fyddwch yn mynychu eich apwyntiad Prawf Gwybodaeth (gweler isod).

Bydd yr Awdurdod Trwyddedu yn cyflawni gwiriad ar statws mewnfudo’r ymgeisydd gyda’r Swyddfa Gartref. Ni fydd gwiriadau sy’n datgelu fod gan ymgeisydd ganiatâd cyfreithiol parhaol i breswylio a gweithio yn y DU, angen unrhyw wiriadau pellach gyda’r Swyddfa Gartref.

Gall wiriadau sy’n datgelu fod gan yr ymgeisydd ganiatâd cyfreithiol cyfnod penodol i breswylio neu weithio yn y DU, dderbyn trwydded cyfnod byrrach.

Ni fydd yr Awdurdod Trwyddedu yn cyflwyno trwydded i unrhyw ymgeisydd nad oes gan ganiatâd cyfreithiol i breswylio neu weithio yn y DU; mae hyn yn unol â Deddf Mewnfudo 2016

Dolenni defnyddiol: sut i brofi eich statws mewnfudo – Gweld a phrofi eich statws mewnfudo: cael cod rhannu (gwefan allanol)

Sut i wneud cais am god rhannu – Gwiriwch hawl ymgeisydd swydd i weithio: defnyddiwch eu cod rhannu (gwefan allanol)

Unwaith byddwch wedi cyflwyno eich cais ac y bydd wedi ei dderbyn, byddwch yn derbyn copi electroneg neu bapur o Bolisi ac Amodau Trwyddedu Cerbyd Hacni a Hurio Preifat cyfredol y Cyngor. Mae hon yn ddogfen allweddol ar gyfer pob gyrrwr ac mae’n ffurfio rhan sylweddol o’r prawf gwybodaeth. 

Gallwch nawr drefnu i gwblhau eich prawf gwybodaeth ar-lein yn Swyddfeydd y Cyngor yn Ninbych. Ffoniwch 01824 706342 neu anfonwch e-bost at trwyddedu@sirddinbych.gov.uk i drefnu lle ar y sesiwn nesaf sydd ar gael. Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch er mwyn cymryd y prawf ffoniwch y rhif uchod i siarad gydag aelod o'r tîm trwyddedu yn gyfrinachol. Cofiwch ddod â’ch dogfennau sy’n profi eich hawl i weithio gyda chi i’r apwyntiad hwn.

Gallwch eistedd y prawf gymaint ag y byddwch angen nes byddwch yn llwyddo, fodd bynnag, codir tâl ar wahân yn dilyn y prawf cychwynnol. Os ydych yn methu’r prawf, rhaid aros wythnos cyn ymgeisio eto.

Beth sy’n digwydd i fy nghais ar ôl i mi wneud yr uchod?

Er mwyn penderfynu ar eich cais, bydd yn rhaid i swyddogion:

  1. Derbyn ymateb i’ch cais am wiriad gan y GDG gan TaxiPlus
  2. Derbyn ymateb i’ch cais DVLA gan TaxiPlus
  3. Cwblhau’r gwiriadau mewnol angenrheidiol – h.y. Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae hwn yn ofyniad corfforaethol fel bod y Cyngor yn bodloni ei gyfrifoldebau diogelu.
  4. Cwblhau gwiriad Menter Twyll Genedlaethol. Mae’r chwiliad gorfodol hwn o gronfa ddata genedlaethol yn ein galluogi i ddilysu ymgeiswyr ac mae’n helpu i leihau’r nifer o geisiadau twyllodrus a wneir neu geisiadau a wneir sy’n cynnwys camgymeriad.
  5. Cwblhau’r Gofrestr Genedlaethol ar gyfer Gyrwyr Tacsi (NR3). Mae'r gofrestr genedlaethol hon yn cadw gwybodaeth ar yrwyr tacsis y mae eu cais i yrru wedi ei wrthod neu ei dynnu yn ôl.
  6. Derbyn eich tystysgrif feddygol (os nad yw'n cael ei chyflwyno wrth wneud cais).

Os byddwn yn derbyn gwiriadau boddhaol, byddwn yn ceisio dyfarnu eich trwydded o fewn 5 diwrnod gwaith. Fel arfer byddwn yn postio eich trwydded a’ch bathodyn ond os hoffech eu casglu eich hun, rhowch wybod i ni.

Os bydd gwiriad yn dod yn ôl yn nodi bod angen ymchwilio pellach, byddwch yn cael gwybod yn ddi-oed am y cam nesaf. Sicrhewch eich bod wedi darparu’ch manylion cyswllt cywir, gan gynnwys eich cyfeiriad e-bost gan mai dyma’r ffordd gyflymaf o gysylltu weithiau.

Diogelu Data

Darperir y wybodaeth er mwyn:

  • Prosesu a phenderfynu ar geisiadau trwydded / hawlen
  • Prosesu rhybuddion
  • Darparu gwybodaeth o'r gofrestr gyhoeddus
  • Ymchwilio i gwynion
  • Cynnal gweithgaredd gorfodi rheoliadol, gan gynnwys gydag asiantaethau partner

Mae rhai prosesau’n cael eu cwblhau ar-lein gan yr ymgeiswyr. Bydd y prosesau hynny yn cynnwys gwybodaeth am sut caiff eich data ei ddefnyddio.

Mae prosesau sydd â datganiadau diogelu data penodol â’r datganiadau hynny wedi eu cynnwys yn y pecyn hwn. Yn ogystal, mae Hysbysiad Preifatrwydd corfforaethol Hysbysiad Preifatrwydd Sir Ddinbych sy’n darparu gwybodaeth bellach ar drin data ac mae hwn yn cael ei ategu ymhellach gan y ddogfen Ganllaw yn y Pecyn hwn ar “Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth”.

Manyslion Cyswllt

Yr Adain Drwyddedu

01824 706342 / trwyddedu@sirddinbych.gov.uk 

  • Dydd Llun i Dydd Iau: 9am tan 5pm
  • Dydd Gwener: 9am tan 4:30pm.