Os oes arnoch chi eisiau cau ffordd dros dro, mae’n rhaid i chi gyflwyno cais i’r Cyngor.
Yn ogystal â chau ffyrdd ar gyfer gwaith ffordd, rydym ni’n gallu cau ffyrdd dros dro ar gyfer digwyddiadau fel gorymdeithiau cyhoeddus, marchnadoedd stryd neu weithred o ffydd ac ar gyfer adegau eraill lle mae’r stryd yn debygol o fod yn orlawn o bobl.
Sut ydw i’n ymgeisio?
I wneud cais ar gyfer cau ffordd dros dro mae’n rhaid i chi gwblhau ffurflen gais cau ffordd a’i hanfon i’r cyfeiriad ar y ffurflen.
Rydym ni’n gwneud ein gorau i gadw ffyrdd ar agor ar bob adeg ac rydym ni’n edrych ar bob cais yn unigol. Nid yw cyflwyno cais yn golygu y byddem yn cau’r ffordd ar gyfer eich digwyddiad.
Ffurflen gais cau ffordd (PDF, 424KB)
Faint mae’n costio?
Mae’n costio £400 i gau ffordd am 1-3 diwrnod. Mae’n costio £1,250 i gau ffordd am fwy na 3 diwrnod.
Nid ydym ni’n codi tâl am gau ffordd ar gyfer digwyddiadau wedi eu cynnal gan elusennau cofrestredig nac ar gyfer carnifalau na pharedau.
Cofiwch amgáu siec yn daladwy i Gyngor Sir Ddinbych gyda’ch cais.