Mae’n rhaid i chi gael trwydded cyn codi sgaffaldiau.
Os ydych chi eisiau codi sgaffaldiau ar ffordd, palmant, llwybr cerdded, ymyl gwair neu ar stryd gefn mae’n rhaid i chi gael trwydded gan y Cyngor.
Sut ydw i'n gwneud cais?
Dim ond ceisiadau gan gwmnïau sgaffaldiau gydag yswiriant atebolrwydd cyhoedd gwerth £45 miliwn y byddwn yn eu derbyn. Nid oes modd i unigolion wneud cais am drwydded sgaffaldiau.
Os ydych chi eisiau codi sgaffaldiau ar ffordd, palmant, llwybr cerdded, ymyl gwair neu stryd gefn mae’n rhaid i chi gysylltu â chwmni sgaffaldiau. Bydd y cwmni wedyn yn gwneud cais am drwydded ar eich rhan ac yn cysylltu â ni i drefnu trwydded ar gyfer pob ffordd sy’n cael ei heffeithio.
Fe ddylai’r cwmni sgaffaldiau gwblhau'r ffurflen gais hon a’i hanfon i’r cyfeiriad e-bost ar y ffurflen.
Faint mae'n costio?
Mae'n rhaid talu ffi o o £63 (hyd at 10m), £79 (10m-50m), £95 (dros 50m), y mis ar gyfer y drwydded sgaffald i Gyngor Sir Ddinbych ymlaen llaw.
Mae cost ychwanegol o £11 y dydd yn gymwys os yw’r sgaffald mewn lleoliad sy'n waharddedig, cyfyngedig neu rwystredig.
Cais ôl-weithredol: £150 a ffi'r drwydded. Mae hyn yn gymwys ar gyfer sgaffald sy'n cael ei ganfod ar y briffordd heb drwydded.
Ar ôl i’ch cais gael ei brosesu, bydd ein hadran Gwasanaethau i Gwsmeriaid yn cysylltu efo chi i drefnu taliad.