Trwyddedu cartrefi symudol

Daeth y Ddeddf Cartrefi Symudol (2013) i rym ar 1af o Hydref 2014. Bwriad y newidiadau newydd yw i sicrhau bod amodau ar safleoedd cartrefi symudol yn gwella a bod hawliau trigolion cartref symudol yn cael eu gwarchod yn well.

Sut mae cofrestru?

Rhaid i bob safle cartrefi symudol fod â thrwydded safle wedi ei chyhoeddi gan yr awdurdod lleol ar barc gyda'r caniatâd cynllunio perthnasol.

Darganfyddwch fwy am gael y caniatâd cynllunio perthnasol.

Rhaid cwblhau ffurflenni statudol hefyd cyn gall perchnogion werthu eu cartrefi symudol, newid ffioedd lleiniau a diwygio unrhyw reolau safle.

Mae'r ffurflenni angenrheidiol a'r prosesau wedi eu hamlinellu ar wefan Llywodraeth Cymru (gwefan allanol).

Faint fydd y gost?

Mae'r ddeddfwriaeth newydd yn rhoi pwerau i'r awdurdod lleol i osod ffioedd ar gyfer trwyddedu safleoedd cartrefi symudol. Bydd cost trwyddedu'n amrywio yn ôl maint y safle. Gellir gweld yr holl wybodaeth am y polisïau a'r cynlluniau codi tâl ar safleoedd cartrefi symudol yn yr adolygiad ffioedd a chostau blynyddol.

Polisi codi tâl a ffioedd ar gyfer trwyddedu safleoedd cartrefi symudol (PDF, 52KB)