Datganiadau cyllideb adran 52

Pob blwyddyn rydym ni’n cyhoeddi datganiadau cyllideb Adran 52 i ddangos y gwariant cynlluniedig ar gyfer addysg yn Sir Ddinbych. Mae tair rhan i’r datganiadau: 

  • Rhan 1: Gwybodaeth lefel ysgol:  crynodeb o gyllidebau ysgolion, gyda chyllideb pob ysgol, a’r gyllideb fesul y disgybl. 
  • Rhan 2: Cyllideb unigol ysgolion:  ffactorau ariannu: ein fformiwla dyrannu, gyda disgrifiad o’r ffactorau a'r meini prawf, eu gwerth ariannol a’u methodoleg. Rydym ni hefyd yn darparu crynodeb o bob elfen. 
  • Rhan 3: Cyfran cyllideb ysgol:  yn dangos sut mae ein fformiwla wedi ei ddefnyddio i gyfrifo cyfran cyllideb pob ysgol. Mae’n dangos yr holl ffactorau (ariannol ac anariannol) sy’n cael eu defnyddio i gyfrifo dyraniad fformiwla pob ysgol.

Gallwch lawrlwytho datganiadau cyllideb Adran 52 ar gyfer y pum mlynedd ddiwethaf isod.

Datganiadau Canlyniad Adran 52

Ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol (31 Mawrth) rydym ni’n paratoi datganiad i grynhoi’r canlynol: 

  • cyfran cyllideb cynlluniedig pob ysgol 
  • newidiadau blynyddol 
  • gwir wariant ac incwm 
  • arian a ddygwyd ymlaen o’r flwyddyn ariannol ddiwethaf 
  • arian a ddygwyd ymlaen i’r flwyddyn ariannol nesaf

Rydym ni’n cyflwyno’r datganiad hwn i Lywodraeth Cymru pob blwyddyn. Gallwch lawrlwytho datganiadau canlyniad Adran 52 ar gyfer y pum mlynedd ddiwethaf isod.