Lleoedd mewn dosbarth derbyn

Gall plant fynychu dosbarth derbyn, naill ai mewn ysgol fabanod neu ysgol gynradd, y mis Medi ar ôl eu pen-blwydd yn 4 oed.

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am le mewn dosbarth derbyn ar gyfer plant a anwyd rhwng 1 Medi 2018 a 31 Awst 2019 oedd 18 Tachwedd 2022.

Os ydych chi wedi gwneud cais yn barod, byddwn yn rhoi gwybod i chi beth yw’r canlyniad erbyn 17 Ebrill 2023.

Gwneud cais ar ôl y dyddiad cau 

Rydym yn ymdrin â cheisiadau hwyr ar ôl y rhai a ddaw i law ar amser, os ydych yn ymgeisio ar ôl y dyddiad cau, rydym yn argymell nodi mwy nag un dewis oherwydd efallai y bydd y lleoedd sydd ar gael yn eich ysgol ddewisol wedi'u llenwi’n barod.Gwneud cais am le mewn dosbarth derbyn ar ôl y dyddiad cau

Os ydych yn ymgeisio ar ôl y dyddiad cau, bydd eich cais yn cael ei brosesu ar ôl trin â'r holl geisiadau a ddaeth i law ar amser. Mae hyn yn golygu y gall eich ysgol ddewisol fod yn llawn erbyn yr amser y byddwn yn prosesu'ch cais, ac am y rheswm hwn, rydym yn argymell eich bod yn nodi mwy nag un dewis wrth ymgeisio.

Bydd ceisiadau hwyr a ddaw i law yn cael eu hystyried gyda’i gilydd, waeth beth oedd y dyddiad y daethant i law, yn erbyn y meini prawf gordanysgrifio yng nghanllaw Ysgolion Sir Ddinbych.

Os ydych yn gwneud unrhyw newidiadau i gais oedd ar amser ar ôl y dyddiad cau, byddwn yn ystyried hwn fel cais newydd a fydd yn cymryd lle unrhyw beth a gafwyd yn flaenorol a bydd yn cael ei gofnodi fel cais hwyr.

Canllawiau gwybodaeth ysgolion