Gwneud cais am gludiant am ddim i'r ysgol uwchradd

Beth sy'n digwydd i fy ngwybodaeth?

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn casglu eich gwybodaeth bersonol er mwyn darparu gwasanaethau sydd yn berthnasol i’ch cais.

Darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd arlein i gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut rydym ni’n trin eich gwybodaeth bersonol.

  • Cyn i chi gwblhau’r ffurflen gais hon:

    Mae’r ffurflen gais hon ar gyfer gwneud cais am gludiant am ddim i'r ysgol i ysgol uwchradd yn Sir Ddinbych.

    Ewch i’n gwe dudalen cludiant am ddim i'r ysgol a'r coleg os hoffech chi wneud cais am gludiant am ddim i fath arall o ysgol neu goleg.

    Dim ond i ddisgyblion sy’n byw yn Sir Ddinbych y gallwn ni ddarparu cludiant am ddim iddyn nhw.

  • Ydych chi'n gwneud cais am gludiant am ddim i'r ysgol ar gyfer disgybl sy’n byw yn Sir Ddinbych?