Cinio ysgol am ddim

Mae pob ysgol yn Sir Ddinbych yn darparu cinio ysgol. Mae cinio ysgol ysgolion cynradd â phris penodol ond mae ysgolion uwchradd â phrisiau gwahanol ar gyfer prydau bwyd gwahanol.

Prydau Ysgol am Ddim Cyffredinol i Ysgolion Cynradd

I helpu â chostau byw cynyddol, rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau y bydd pob disgybl cynradd yn cael cynnig prydau ysgol am ddim erbyn 2024 drwy’r cynllun Prydau Ysgol am Ddim Cyffredinol i Ysgolion Cynradd.

Mae hwn yn wahanol i’r cynllun Prydau Ysgol am Ddim sydd ar gael i bobl sy’n derbyn budd-daliadau penodol.

Os ydych yn gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim oherwydd eich bod yn cael budd-dal cymwys, rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais am Brydau Ysgol am Ddim gan y byddwch hefyd yn gymwys am y Grant Hanfodion Ysgol.

Fe all eich plentyn chi gael cinio ysgol am ddim os ydych chi’n derbyn unrhyw un o’r budd-daliadau canlynol:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm 
  • Credyd Pensiwn; Credyd Gwarantedig 
  • Treth Credyd Plant (ond nid Credyd Treth Gwaith) gydag incwm blynyddol llai na £16,190
  • Cymorth o dan Adran VI o Ddeddf Lloches a Mewnfudo 1999
  • Credyd Cynhwysol - O 1 Ebrill 2019, i fod yn gymwys am brydau ysgol am ddim trwy dderbyn Credyd Cynhwysol, ni ddylai’ch enillion net blynyddol fod dros £7,400.

Mwy o wybodaeth am budd-daliadau di-dreth a buddion trethadwy (gwefan allanol).

Nid oes modd i blentyn maeth dderbyn cinio ysgol am ddim. Mae rhieni maeth eisoes yn cael lwfans i edrych ar ôl y plentyn.

Sut i hawlio cinio ysgol am ddim

Dim ond i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am ysgol eich plentyn y gellir cyflwyno cais am ginio ysgol am ddim.

Os yw eich plentyn yn mynychu ysgol yn Sir Ddinbych, gallwch wneud cais ar-lein am ginio ysgol am ddim.

Os yw eich plentyn yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, byddwch hefyd yn gymwys ar gyfer y Grant Hanfodion Ysgol, os nad yw’r plentyn yn y chweched dosbarth (nid yw'r Grant Hanfodion Ysgol ar gael i ddisgyblion yn y chweched dosbarth).

Pan fyddwch yn gwneud cais, byddwch yn defnyddio’r un cais i hawlio prydau ysgol am ddim a’r Grant Hanfodion Ysgol, os nad yw eich plentyn yn y chweched dosbarth.

Blwyddyn Ysgol 2024/2025

Nid ydym yn derbyn ceisiadau ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024/2025 ar hyn o bryd. Mae gwneud cais am cinio ysgol am ddim i ddisgybl sy'n mynd i ysgol ystod blwyddyn ysgol 2024/2025 yn agor o 1 Gorffennaf 2024.

Gwneud cais ar-lein am ginio ysgol am ddim (ar gyfer plentyn yn un o ysgolion Sir Ddinbych)

Newid ysgolion

Bydd angen i chi roi gwybod i ni os yw eich plentyn yn gadael neu’n newid ysgol.

Dylech lenwi ffurflen gais prydau ysgol am ddim newydd os yw’ch plentyn wedi symud i ysgol arall yn Sir Ddinbych neu cysylltwch â ni i ganslo cinio ysgol am ddim

Gwybodaeth gan Awdurdodau Lleol eraill