Cludiant am ddim i'r ysgol: Chweched dosbarth

Mae cludiant am ddim i'r ysgol ar gael i fyfyrwyr chweched dosbarth (Blwyddyn 12 hyd at Flwyddyn 13) os ydi eu cartref  mwy na thair milltir o’r ysgol addas agosaf neu os nad oes yna lwybr cerdded diogel ar gael. I gael eu hystyried ar gyfer cludiant 6ed dosbarth yn ôl disgresiwn mae’n rhaid i ddisgyblion fod yn:

  • iau nag 19 oed ar 1 Medi pan fyddant yn dechrau astudio
  • astudio’n llawn amser
  • mynychu’r ysgol addas agosaf – pa bynnag bwnc y byddant yn ei astudio.

Os ydych yn cofrestru ar gyfer 6ed dosbarth (Blwyddyn 12) yn yr un ysgol ag yr ydych wedi derbyn cludiant o’r blaen (blwyddyn 7 – 11) mae’n rhaid i chi ailymgeisio am gludiant chweched dosbarth.

Newidiadau i seddi consesiynol ar gludiant i'r ysgol

Oherwydd cyfyngiadau yn y Rheoliadau Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus (RHCGC) (gwefan allanol), ni allwn dderbyn ceisiadau newydd am seddi consesiynol ar ein gwasanaethau cludiant i'r ysgol (bysiau, coetsys neu dacsis). Bydd consesiynau a roddwyd yn flaenorol yn parhau lle y bo'n bosibl.

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais ar-lein am gludiant am ddim i’r chweched dosbarth agosaf ar gyfer.

Dim ond os yw eich lle mewn ysgol wedi cael ei gadarnhau ac os ydych yn byw yn Sir Ddinbych y gallwch wneud cais am gludiant am ddim i’r ysgol.

Gwneud cais am gludiant am ddim i'r ysgol i chweched dosbarth

Os hoffech chi weld cynnydd eich cais am gludiant ysgol, neu os gofynnwyd i chi ddarparu mwy o wybodaeth, gallwch wneud hynny ar-lein.

Gweld cynnydd neu ddarparu rhagor o wybodaeth ar gyfer cais am gludiant ysgol

Beth sy’n digwydd nesaf:

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn cysylltu â chi’n uniongyrchol i gadarnhau amseroedd casglu a manylion eraill. Os byddwch chi’n gwneud cais yn fuan, gallwn gysylltu â chi’n fuan.

Ceisiadau ganol tymor

Os ydych yn gwneud cais am gludiant am ddim i'r ysgol i ddechrau yn ystod y flwyddyn academaidd, byddwn yn cysylltu â chi ynghylch canlyniad eich cais o fewn 15 diwrnod gwaith. Sylwch fod y 15 diwrnod hwn yn cyfeirio at wirio cymhwysedd ac ymateb, ac nid pryd y bydd cludiant yn dechrau. Os bydd yn llwyddiannus, bydd Cludiant Teithwyr yn rhoi gwybod i chi pryd y bydd eich cludiant yn dechrau.

Ceisiadau ar ddechrau’r flwyddyn academaidd

Os ydych yn gwneud cais am gludiant am ddim i'r ysgol i ddechrau ar ddechrau’r flwyddyn academaidd (mis Medi), byddwn yn cysylltu â chi ynghylch canlyniad eich cais cyn neu yn ystod gwyliau’r haf.

Os bydd eich cais yn cael ei wrthod

Os bydd eich cais am gludiant am ddim i'r ysgol yn cael ei wrthod, byddwn yn cysylltu â chi i roi gwybod y rheswm dros hynny. Yn anffodus nid oes yna hawl i apelio os gwrthodir gan nad yw addysg 6ed dosbarth yn statudol.

Mwy o wybodaeth

O ble y gellir darparu cludiant am ddim i'r ysgol?

Dim ond i’r cyfeiriad cartref cofrestredig y darperir cludiant am ddim i'r ysgol. Ni ddarperir cludiant i gyfeiriadau aelodau eraill o’r teulu, cyfeiriadau ffrindiau, cyfeiriadau gwaith rhieni, cyfleusterau gofal plant neu unrhyw gyfeiriad arall nad yw’n gyfeiriad cartref cofrestredig.

Preswyliad deuol

Os oes gan ddisgybl breswyliad deuol, h.y. rhieni’n byw mewn eiddo gwahanol, gellir darparu cludiant am ddim i’r ddau gyfeiriad, ond yn ogystal â’r meini prawf cymhwyso safonol, byddwn angen:

  • Derbyn cais ar gyfer pob cyfeiriad.
  • Sicrhau mai’r ysgol a fynychir ydi’r ysgol addas agosaf at y prif gartref.
  • Y prif gartref fel rheol ydi’r eiddo sydd yn derbyn budd-dal plant a dyma’r cyfeiriad sydd wedi’i gofrestru gyda’r ysgol.
  • Darganfod pa ddiwrnodau y bydd y disgybl yn teithio o bob cyfeiriad.
  • Gwrthod ceisiadau am deithio ar y penwythnos e.e. gollwng ar dydd Gwener a’u casglu ar fore Llun.

Os ydi’r ail gartref mewn sir wahanol, rhaid anfon cais i’r sir honno.

Symud tŷ

Os ydi disgybl sy’n derbyn cludiant am ddim i'r ysgol yn symud tŷ ganol y flwyddyn ysgol, yna bydd angen cwblhau ac asesu cais newydd.

Os nad ydi’r disgybl yn mynychu’r hyn y mae’r Awdurdod yn ei ystyried yn ysgol addas agosaf ar ôl symud tŷ, yna ni fyddant yn gymwys am gludiant am ddim i’r ysgol.

Byddwn yn ystyried darparu cludiant ddewisol ar gyfer disgybl sydd hanner ffordd trwy flwyddyn TGAU (Blwyddyn 10 ac 11).

Amseroedd casglu a gollwng

I gael gwybodaeth am amseroedd casglu a gollwng cludiant am ddim i'r ysgol, ffoniwch 01824 706000 neu anfonwch e-bost i cludiant.ysgol@sirddinbych.gov.uk.

Dogfennau cysylltiedig

Polisi cludiant i ddysgwyr (PDF, 767KB)