Cydraddoldeb ac ysgolion

Cyflwynodd Deddf Cydraddoldeb 2010 Ddyletswydd Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus sengl. Mae'r ddyletswydd yn berthnasol i gyrff cyhoeddus megis Cyngor Sir Ddinbych ac mae'n cynnwys unrhyw ysgolion a gynhelir. Cafodd y ddyletswydd hon ei chyflwyno i ddisodli'r dyletswyddau cydraddoldeb blaenorol ar hil, anabledd a rhyw.

Beth mae'r ddyletswydd yn ei ddweud?

Mae cyrff cyhoeddus (gan gynnwys ysgolion), wrth gyflawni swyddogaethau, yn gorfod:

  1. Dileu gwahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth ac unrhyw ymddygiad arall anghyfreithlon a waherddir o dan y Ddeddf.
  2. Hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a'r rhai nad ydynt yn rhannu nodwedd warchodedig.
  3. Meithrin cysylltiadau da rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a'r rhai nad ydynt yn rhannu nodwedd warchodedig.

Rhaid i gyrff cyhoeddus gyhoeddi gwybodaeth eu bod wedi mynd ati i feddwl am dri amcan y Ddyletswydd Cydraddoldeb fel rhan o'r broses gwneud penderfyniadau. Mae'n rhaid i'r wybodaeth gynnwys gwybodaeth cydraddoldeb sy'n ymwneud â phobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol fel: oedran, rhyw, anabledd, ethnigrwydd, crefydd a chred, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, sy’n:

  • weithwyr (ar gyfer awdurdodau gyda mwy na 150 o staff)
  • bobl a effeithir gan ein polisïau (e.e. disgyblion, rhieni ac ati...)

Rhaid i gyrff cyhoeddus gyhoeddi’r wybodaeth hon, fel ei bod yn hygyrch i'r cyhoedd, yn flynyddol. Fel arfer, dangosir hyn fel adroddiad blynyddol.

Sut mae hyn yn effeithio ar ysgolion?

Mae'r dyletswyddau penodol o dan y Ddyletswydd Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion:

  • Baratoi a chyhoeddi amcanion cydraddoldeb (unwaith bob pedair blynedd)
  • Cyhoeddi gwybodaeth i ddangos sut rydym yn cydymffurfio â'r Ddyletswydd Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus (yn flynyddol)

Dylai ysgolion osod cymaint o amcanion y maent yn credu sy’n briodol i'w maint a'u hamgylchiadau. Dylai'r amcanion gyd-fynd ag anghenion yr ysgol a dylent fod yn gyraeddadwy. Nid oes rhaid i ysgolion ysgrifennu amcanion ar gyfer pob nodwedd warchodedig.

Bydd pob ysgol yn cynnal y camau gweithredu sy'n ofynnol i gyflawni'r targedau cydraddoldeb ac amrywiaeth y cytunwyd arnynt.

Mwy wybodaeth

Mae ein Cynllun Corfforaethol yn cynnwys yr holl weithgareddau perthnasol i gydraddoldeb, amrywiaeth a hawliau dynol sy’n digwydd ledled y Cyngor. Mae cydraddoldeb ac amrywiaeth wedi’u hymgorffori yn holl wasanaethau’r Cyngor.

Cael gwybod am ein cynllun corfforaethol.

Dogfennau cysylltiedig