Cynllun Ysgolion Iach

Mae Ysgolion Iach yn gynllun cenedlaethol. Mae 'Ysgol Iach' yn hyrwyddo, diogelu ac ymgorffori iechyd a lles corfforol, meddyliol a chymdeithasol ei chymuned drwy gymryd camau cadarnhaol.

Diweddaraf am coronafeirws

Rydym yn parhau i weithio gydag ysgolion drwy gynnig cyfarfodydd a hyfforddiant ar-lein. Gall asesiadau barhau ar-lein.

Am y wybodaeth ddiweddaraf am ein gwasanaethau a'n cyngor ewch i sirddinbych.gov.uk/coronafeirws

Y themau iechyd yw:

  • Bwyd a ffitrwydd
  • Amgylchedd yr ysgol
  • Diogelwch
  • Datblygiad personol a pherthnasoedd
  • Hylendid
  • Defnyddio a chamddefnyddio sylweddau
  • Iechyd a lles emosiynol a meddyliol

Adnoddau Cynllun Ysgolion Iach

Iechyd Cyhoeddus Cymru: Cynlluniau Ysgolion Iach - Rhwydwaith Cymru (gwefan allanol)