Gwasanaeth Cwnsela Annibynnol Pobl Ifanc Sir Ddinbych: Atgyfeiriadau ar gyfer cwnsela

Gwybodaeth ynglŷn â gwneud atgyfeiriad at Wasanaeth Cwnsela Annibynnol Pobl Ifanc Sir Ddinbych. 

Plant a Phobl Ifanc

Gall plant a phobl ifanc yn Sir Ddinbych, hyd at 18 oed, atgyfeirio eu hunain i gael cwnsela.

Gweithwyr proffesiynol, Rhieni a Gofalwyr

Rydym yn croesawu atgyfeiriadau gan weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc a rhieni a gofalwyr sy’n dymuno gwneud atgyfeiriad i blant yn eu gofal. 

Sut i wneud atgyfeiriad

Gallwch wneud atgyfeiriad ar-lein ar gyfer Gwasanaeth Cwnsela Annibynnol Pobl Ifanc Sir Ddinbych

Gwneud atgyfeiriad i'r gwasanaeth cwnsela ar-lein

Beth sy’n digwydd ar ôl gwneud atgyfeiriad? 

Ar ôl i chi wneud atgyfeiriad bydd cwnselydd yn cysylltu â chi i drefnu apwyntiad ac yn y cyfarfod hwnnw gofynnir i chi nodi eich bod yn cytuno gyda’r telerau ac amodau.