Cofrestru ar gyfer Urddas Mislif: Os Bydd Argyfwng (ICE) (Ffurflen Archebu) 

Beth sy'n digwydd i fy ngwybodaeth?

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn casglu eich gwybodaeth bersonol er mwyn darparu gwasanaethau sydd yn berthnasol i’ch cais.

Darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd arlein i gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut rydym ni’n trin eich gwybodaeth bersonol.

  • Cyn i chi lenwi'r ffurflen hon.

    Gall Cyngor Sir Ddinbych ddarparu bwndel o gynnyrch mislif ecogyfeillgar, di-blastig, i sefydliadau cymwys i’w darparu mewn achos o argyfwng.

    Bydd ein partner cyflenwi, TOTM, yn cyflenwi’r cynnyrch canlynol yn uniongyrchol:

    • 3 x uned arddangos
    • 3 bocs o damponau canolig (30/bocs)
    • 3 bocs o damponau mawr (30/bocs)
    • 3 bocs o gadachau canolig (20/bocs)
    • 3 bocs o gadachau mawr (20/bocs)

    Cofrestru a Chyflenwi

    I gofrestru ar gyfer bwndel o gynnyrch rhad ac am ddim, llenwch a chyflwynwch y ffurflen os gwelwch yn dda.