Gwasanaeth Tanysgrifiad: Urddas Mislif

Services and information

Ydych chi'n byw yn Sir Ddinbych mewn aelwyd incwm isel? Ydych chi’n mynychu Ysgol yn Sir Ddinbych? Os ydych chi, gallech chi fod yn gymwys i gael cynnyrch mislif yn rhad ac am ddim, naill ai rhai y gallwch eu hailddefnyddio neu rai ecogyfeillgar danfon yn syth at eich drws.

Urddas Mislif

Mae Sir Ddinbych, drwy Grant Urddas Mislif Llywodraeth Cymru, wedi sicrhau cyllid i gefnogi teuluoedd a phobl ifanc yn Sir Ddinbych i gael mynediad at gynnyrch mislif yn rhad ac am ddim. Rydym wedi ffurfio partneriaeth â Hey Girls i ddarparu'r gwasanaeth hwn. Gallwch ddod o hyd i lawer o wybodaeth ddefnyddiol ar wefan Hey Girls (gwefan allanol).

Mae'r holl gynnyrch yn ecogyfeillgar ac yn ddi-blastig.

Os hoffech chi gofrestru ar gyfer y gwasanaeth tanysgrifio am ddim, lle gallwch chi ddewis cynnyrch y gallwch ei ailddefnyddio / ei ddefnyddio unwaith a’i daflu, yna ewch i:

Cofrestrwch i gael cynnyrch mislif am ddim

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â perioddignity@denbighshire.gov.uk.