Urddas Mislif: Gwasanaeth Mewn Argyfwng (ICE)

Mae Cyngor Sir Ddinbych, drwy Grant Urddas Mislif Llywodraeth Cymru, wedi sicrhau cyllid i gefnogi trigolion Sir Ddinbych ac ymwelwyr i gael mynediad at gynnyrch mislif mewn argyfwng yn rhad ac am ddim.

Cyflenwir y cynnyrch hyn gan TOTM, brand gofal mislif sydd wedi ennill sawl gwobr sy’n gobeithio ysbrydoli ffyrdd gwell a chynaliadwy o reoli’r mislif. I gael mwy o wybodaeth am TOTM ewch i wefan TOTM (gwefan allanol).

Mae’r unedau arddangos yn cynnwys amrywiaeth o gynnyrch glanweithdra am ddim, ac maent ar gael mewn nifer o doiledau mewn adeiladau cyhoeddus, gan gynnwys nifer o lyfrgelloedd Cyngor Sir Ddinbych. Mae’r rhain hefyd ar gael mewn Toiledau Hygyrch.

Lleoliadau

Ar hyn o bryd mae gan Sir Ddinbych 48 o leoliadau mewn argyfwng wedi'u cadarnhau o amgylch y sir, sydd ar gael i'r cyhoedd am ddim.

Mae'r rhestr lawn o leoliadau isod:

Gall sefydliadau trydydd sector megis elusennau, canolfannau cymuned a sefydliadau sector cyhoeddus, gofrestru i ddod yn lleoliad mewn argyfwng trwy gwblhau ffurflen ar-lein isod:

Cofrestru ar gyfer Urddas Mislif: Os Bydd Argyfwng (ICE) (Ffurflen Archebu)

Mae croeso i leoliadau sydd heb fynediad i’r cyhoedd ond yn gwasanaethu ardal neu gymuned benodol, gysylltu â ni i drafod os allent hefyd dderbyn unedau arddangos mewn argyfwng trwy anfon e-bost at y tîm ar perioddignity@denbighshire.gov.uk.

Map o'r lleoliad

Sgipiwch y map gweladwy.