Dod i drefn ar ôl llifogydd
Peidiwch â mynd yn ôl i'ch tŷ tan i'r heddlu neu'r gwasanaethau brys ddweud wrthych ei fod yn ddiogel gwneud hynny.
Cysylltwch â'ch cwmni yswiriant cyn gynted â phosib - mae gan lawer ohonynt linellau ffôn argyfwng 24 awr. Gofynnwch iddynt faint o amser y bydd yn eu cymryd nhw i'ch gweld, a gwiriwch os oes ganddynt gwmni fydd yn glanhau eich ty, neu os bydd angen gwneud hynny eich hunain.
Cronfa Cymorth Dewisol
Mae Cronfa Cymorth Dewisol (gwefan allanol) yn darparu dau wahanol grant nad oes angen ichi eu talu yn ôl.