Strategaeth Leol Sir Ddinbych ar Gyfer Rheoli Perygl Llifogydd

Rydym ni wedi datblygu Strategaeth Rheoli Risg Llifogydd Lleol sy'n nodi sut y byddwn yn gweithio gydag awdurdodau rheoli risg, sefydliadau a chymunedau eraill i reoli perygl llifogydd.

Rhan bwysig o'r strategaeth yw gweud yn siŵr bod ein cymunedau yn gwybod:

  • pa berygl llifogydd sy'n bodoli
  • beth yw cyfrifoldebau'r cyngor a'r awdurdodau rheoli eraill
  • beth y mae modd i gymunedau ei wneud drostynt eu hunain

Mae'r strategaeth leol yn cefnogi ac yn ategu'r strategaeth genedlaethol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae'r strategaeth genedlaethol yn amlinellu fframwaith cenedlaethol ar gyfer rheoli risg llifogydd ac erydu arfordirol, sy'n anelu at gydbwyso anghenion cymunedau, yr economi, a'r amgylchedd. Mae'r Strategaeth Genedlaethol ar Gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol (Cymru) gan Lywodraeth Cymru yn gosod yr amcanion canlynol:

  • lleihau'r effeithiau i unigolion, cymunedau, busnesau a'r amgylchedd yn sgil llifogydd ar erydu arfordirol
  • codi ymwybyddiaeth a chynnwys pobl yn yr ymateb i berygl llifogydd ac erydu arfordirol
  • darparu ymateb effeithiol a pharhaus i lifogydd a digwyddiadau erydu arfordirol
  • blaenoriaethu buddsoddi yn y cymunedau sy'n wynebu'r perygl mwyaf

Mae ein Strategaeth Rheoli Risg Llifogydd Lleol yn cefnogi ac yn ategu'r amcanion hyn.

Dogfennau cysylltiedig