Grwpiau gweithredu yn erbyn llifogydd cymunedol

Gall cymunedau helpu i ddatblygu eu gwydnwch at lifogydd trwy sefydlu grŵp gweithredu yn erbyn llifogydd. Os oes gennych ddiddordeb mewn sefydlu un, mae cyngor ar gael gan y Fforwm Llifogydd Cenedlaethol (gwefan allanol). Gallwch anfon e-bost atom neu ein ffonio ar 01824 706872 hefyd.

Sefydlwyd Grŵp Cymunedol ‘Dyserth Flood Support’ ar ôl llifogydd hanesyddol ar Ffordd y Rhaeadr. Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi darparu rhwystrau llifogydd trwy help gan grant Llywodraeth Cymru i grwpiau cymunedol. Darparodd Cyngor Sir Ddinbych rwystrau ychwanegol yn 2025.