Rhoi gwybod am achos o lifogydd
Mathau o lifogydd a phwy sy’n delio â nhw
Os oes llifogydd ar ffordd neu ffos wedi blocio yn eich ardal chi, rhowch wybod i ni ac mi wnawn ni geisio cadw’r broblem dan reolaeth.
Rhoi gwybod am lifogydd ar briffordd
Os ydych chi’n pryderu am lifogydd a pherygl o lifogydd yn eich ardal, ffoniwch Floodline ar 0345 988 1188 neu gallwch anfon e-bost atom ni neu ein ffonio ar 01824 706000.
Ar gyfer problemau sy’n effeithio ar brif afonydd, cysylltwch â Chyfoeth Naturiol Cymru ar 0300 065 3000 neu ar-lein:
Rhoi gwybod am ddigwyddiad amgylcheddol (gwefan allanol)
Gallwch weld map o brif afonydd ar MapDataCymru (gwefan allanol).
Os oes llifogydd sy’n effeithio ar garthffosydd, cysylltwch â Dŵr Cymru ar 0800 085 3968 neu ar-lein:
Adrodd am broblem â charthffos wrth Dŵr Cymru (gwefan allanol)