Beth ddylwn i ei wneud â beiciau?

Symbol ailgylchu beiciau

Wedi cael beic newydd, neu ddim yn defnyddio eich beic bellach? Beth am geisio gwerthu eich hen feic ar-lein neu ei roi i aelod o’r teulu?

Os yw eich beic y tu hwnt i gael ei drwsio, ewch ag o i’r Parc Ailgylchu a Gwastraff.

Neu, gallwch drefnu casgliad eitem swmpus am bris.

Mae gweithredwr ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn gweithio gyda menter gymunedol leol i adfer a thrwsio beiciau er mwyn gallu eu gwerthu neu eu rhoi i’r gymuned. Mae darnau beiciau sydd y tu hwnt i gael eu trwsio yn cael eu hailgylchu ran amlaf (elfennau metel).