Beth ddylwn i ei wneud â chardbord/pecynnau cardbord?

Gallwch ailgylchu cardbord yn eich bin ailgylchu cymysg glas neu sachau ailgylchu clir.
Dylech falu bocsys cardbord mawr yn ddarnau dim mwy nag 1 fetr sgwâr (1m2).
Byddwn yn mynd â chardbord ychwanegol os yw’n cael ei roi wrth eich bin glas, ond os oes gennych chi lawer o gardbord ychwanegol, ewch ag o i’r Parc Ailgylchu a Gwastraff.
Gofalwch eich bod yn tynnu unrhyw becynnau plastig, y rhan fwyaf o’r tâp ac unrhyw fandiau.
Bin ailgylchu cymysg glas.
Sachau ailgylchu clir.