Gwastraff masnach

Nid yw cost casglu gwastraff masnach wedi ei gynnwys mewn ardrethi busnes felly rydym yn codi ffi am ei gasglu a’i waredu. Gallwch ddewis defnyddio’r gwasanaeth a ddarparwn ni neu gallwch wneud eich trefniadau eich hun efo contractwr rheoli gwastraff trwyddedig preifat.

Ni allwch ddefnyddio’r gwasanaethau ailgylchu a sbwriel cartref ar gyfer gwaredu gwastraff masnach.

Ailgylchu yn y gweithle yn newid

O’r 6 Ebrill 2024 ymlaen, bydd yn dod yn gyfraith i bob busnes, elusen a sefydliadau’r sector gyhoeddus i drefnu eu gwastraff ar gyfer ailgylchu.

I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys pa wastraff sydd angen i wahanu ac i bwy mae’r gyfraith yn berthnasol, ewch i llyw.cymru/ailgylchu-yn-y-gweithle (gwefan allanol).

Pa wasanaethau all y Cyngor eu cynnig i mi?

Gallwn gynnig amrywiaeth o wasanaethau casglu ar gyfer deunydd y mae modd ei ailgylchu, gwastraff bwyd a gwastraff gweddilliol (sbwriel na allwn ei ailgylchu). Gallwch ddewis o amrywiol feintiau o finiau ar olwynion neu sachau un-tro ar gyfer ailgylchu neu wastraff gweddilliol. Ar gyfer gwastraff bwyd, rydym yn cynnig y cadis 23 litr a ddefnyddir ar gyfer casgliadau cartrefi, yn ogystal â biniau 120 litr ar olwynion sy’n fwy priodol ar gyfer busnesau cynhyrchu bwyd ac arlwyo.

Sut allaf i drefnu casgliad?

Cysylltwch â ni er mwyn trefnu eich gwasanaeth casglu

Gallwch gysylltu â’n canolfan gwasanaethau i gwsmeriaid hefyd ar 01824 706000 i drefnu gwasanaeth casglu. Bydd angen i ni drefnu’r cynwysyddion gwastraff cywir ar eich cyfer, ac os ydych yn derbyn gwasanaethau biniau ar olwynion, bydd angen contract wedi’i arwyddo.

Ailgylchu masnach

Mae’n gwasanaeth ailgylchu yn eich galluogi i arbed arian a gwarchod yr amgylchedd drwy ailgylchu cyfran fawr o’ch gwastraff, gan gynnwys:

  • papur
  • cardfwrdd
  • poteli gwydr
  • poteli plastig
  • caniau

Gallwch ddewis y cynwysyddion sydd fwyaf addas i chi, boed yn fin 1100 litr ar olwynion, neu'n rholyn o sachau clir.

Gallwch ddarganfod pa ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu drwy ddarllen ein taflen ailgylchu.

Casgliad ailgylchu (PDF, 724KB)

Casgliadau gwastraff bwyd

Rydym yn casglu oddeutu 4,000 tunnell o wastraff bwyd bob blwyddyn o gartrefi a busnesau Sir Ddinbych. Mae’r gwastraff bwyd hwn yn cael ei brosesu’n lleol i gynhyrchu trydan adnewyddadwy a gwrtaith hylif llawn maeth sy’n cael ei ddefnyddio i gyfoethogi tir amaethyddol lleol. Yno gystal â bod y ffordd mwyaf buddiol o ailgylchu gwastraff bwyd, mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn orfodol i fusnesau drefnu bod eu gwastraff bwyd yn cael ei gasglu ar wahân.

Gallwn eich helpu i ailgylchu eich gwastraff bwyd gyda gwasanaeth wythnosol hwylus gan ddefnyddio cadis fel y rhai a ddefnyddiwr yn y cartref neu finiau 120 litr ar olwynion, y gellir eu symud yn hawdd pan fyddant yn llawn.

Casgliadau gwastraff gweddilliol

Gwastraff gweddilliol yw’r enw a roi i’r gwastraff sydd ar ôl wedi i’r holl ddeunydd a ellir ei ailgylchu gael ei dynnu allan ohono. Yn hytrach nag anfon y gwastraff hwn i safle tirlenwi, rydym yn anfon gwastraff gweddilliol i losgydd ynni-o-wastraff, lle caiff ei ddefnyddio i gynhyrchu trydan. 

Gwastraff gweddilliol yw’r gwastraff drytaf i’w gasglu, felly dylech geisio ailgylchu cymaint o ddeunydd â phosib er mwyn lleihau eich costau. Eto, rydym yn cynnig amrywiaeth o gynwysyddion o wahanol feintiau o sachau bron un-tro i finiau 1100 litr ar olwynion.

Faint mae'n gostio?

Mae’n prisiau cyfredol ar gyfer gwasanaethau biniau ar olwynion fel a ganlyn:

Taliadau am wasanaethau biniau olwynion gwastraff masnach
Maint y bin olwynAilgylchuGweddilliolBwyd
1100L £12.75 £25.75 N/A
660L £10.25 £15.75 N/A
360L £6.50 £9.25 N/A
240L £4.50 £6.95 N/A
120L N/A N/A £3.85
23L N/A N/A £1.95

Mae prisiau biniau ar olwynion “fesul bin gwag” heb unrhyw gostau ychwanegol ar gyfer rhentu cynhwysydd na dogfennaeth.

Mae’n prisiau cyfredol ar gyfer casglu sachau fel a ganlyn:

Taliadau am gasgliadau sachau gwastraff masnach
Sachau AilgylchuGweddilliol
10 sachau £15.50 £26.25
52 sachau ailgylchu (rolyn) £77.00 N/A
100 sachau brown N/A £242.75

Nodwch fod yn rhaid prynu sachau fesul 10 uned o leiaf, ond gallwch brynu rhai yn y cyfamser ar gyfraddau pro rata. Mae’r prisiau’n cynnwys cost casglu a gwaredu’r gwastraff, yn ogystal  â chyhoeddi Nodyn Trosglwyddo Gwastraff.

Rhoi gwybod am gasgliad gwastraff masnach wedi ei fethu

Rhoi gwybod am gasgliad gwastraff masnach wedi ei fethu

Casgliad eitemau masnach swmpus

Gallwch drefnu casgliadau hefyd ar gyfer rhai eitemau swmpus. Nid yw cost y gwasanaeth hwn yr un fath â chasgliadau swmpus cartref, gan fod yn rhaid i ni godi ffi am waredu’r eitemau. Ymholwch isod er mwyn gweld beth allwn ni ei gasglu a beth yw’r costau.

Gofynnwch am ddyfynbris ar gyfer casglu eitem fasnach swmpus

Fel arall, gallwch gysylltu â’r ganolfan gwasanaeth i gwsmeriaid ar ar 01824 706000.

Labeli gwasanaeth casglu cardfwrdd

I gwsmeriaid nad oes ganddynt ddigon o le ar gyfer biniau ar olwynion, rydym yn cynnig gwasanaeth casglu cardfwrdd. Gydag un o’n labeli wedi eu hatodi, gallwch osod hyd at 1 metr ciwbig o gardfwrdd wedi ei wasgu i’w gasglu. Nodwch fod y gwasanaeth hwn yn destun polisi defnydd teg.

Gallwch brynu taflenni o 14 o labeli gwasanaeth casglu cardfwrdd o’n Siopau Un Alwad.

Mwy o wybodaeth

Mae perchnogion busnes sy’n torri eu dyletswydd gofal wrth din gwastraff yn troseddu dan Adran 34 Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990. Y gosb uchaf am hyn mewn llys ynadon yw £5,000 neu ddirwy benagored os ceir y busnes yn euog yn llys y goron. Mae’n rhaid i chi, yn unol â’r gyfraith, ddangos copïau o’ch nodiadau Dyletswydd Gofal Trosglwyddo Gwastraff pan ofynnir i chi wneud hynny gan swyddog awdurdodedig i brofi eich bod chi’n gwaredu eich gwastraff mewn ffordd gyfrifol.