Beth ddylwn i ei wneud â CDs, DVDs a Blu-ray?

Symbol ailgylchu disgiau

Gallwch roi CDs, DVDs a Blu-ray i siopau elusen lleol i gael eu hailddefnyddio.

Gallwch hefyd eu rhoi am ddim ar wefannau fel Freegle (gwefan allanol). Neu, os ydych chi eisiau gwneud rhywfaint o arian ychwanegol, gallech geisio eu gwerthu ar-lein.

Fel arall, mae modd mynd â CDs, DVDs a Blu-rays mewn cyflwr da i’r Parciau Ailgylchu a Gwastraff.

Siop Ailddefnyddio: Parc Gwastraff ac Ailgylchu'r Rhyl

Mae Siop ‘Ailddefnyddio’, wedi’i lleoli ym Mharc Ailgylchu gwastraff y Cartref y Rhyl, bellach ar agor 7 diwrnod yr wythnos.

Gellir rhoi bywyd newydd i hen ddodrefn ac eitemau trydanol sy’n gweithio, yn ogystal â dillad o ansawdd uchel neu eitemau cartref a bric-a-brac eraill drwy gyfrannu eich eitemau diangen i’r Siop Ailddefnyddio.

Mae man cyfrannu ar agor 7 niwrnod yr wythnos yn y tri Pharc Ailgylchu Gwastraff y Cartref.