Beth ddylwn i ei wneud â dillad a thecstilau?

Symbol ailgylchu dillad

Symbol ailgylchu tecstilau

Rhowch ddillad a thecstilau nad ydych eu hangen ond sydd mewn cyflwr addas i siop elusen leol neu eu gwerthu ar-lein ar Depop, eBay neu Marketplace ar Facebook (gwefan allanol).

Gall dillad, esgidiau a thecstilau hefyd gael eu rhoi i achos da yn eich Parc Ailgylchu a Gwastraff lleol.

Nid oes posib’ eu hailgylchu yn eich bin ailgylchu cymysg glas na sachau ailgylchu clir.

Menter gymdeithasol 'Co-Options'

Mae'r fenter gymdeithasol Co-Options (gwefan allanol) yn elusen sy'n seiliedig yn Sir Ddinbych, maent yn casglu tecstilau, esgidiau ac eitemau plant y gellir eu hailwerthu ar ymyl palmant bob pythefnos. Maent yn gwerthu eitemau y gellir eu hailddefnyddio drwy eu siop elusen leol yn y Rhyl, “Kit out the Kids and Family" (gwefan allanol) er mwyn codi arian hanfodol i helpu i ddarparu gwaith yn y gymuned a darparu swyddi i oedolion diamddiffyn. Caiff eitemau sydd wedi gwisgo gormod i gael eu hailwerthu eu paratoi ar gyfer y marchnadoedd ailgylchu.

Er mwyn darganfod os yw’r gwasanaeth hwn yn gweithredu yn eich ardal chi, neu os hoffech chi wybod ble mae eich man casglu agosaf, cysylltwch â Co-Options ar 01745 332300 neu ymwelwch â'u gwefan (gwefan allanol).

Rydym yn newid y ffordd yr ydym yn casglu eich gwastraff.

Yn ystod 2023, byddwch yn derbyn gwybodaeth am y ffordd yr ydym yn ymestyn ein gwasanaeth casglu ymyl palmant i gynnwys casglu’r eitem hon o bob cartref, gan weithio gyda’n Partner Sector Cymdeithasol yn Sir Ddinbych, Co-Options (gwefan allanol).