Beth ddylwn i ei wneud ag eitemau babi?

Mae posib' rhoi eitemau babi fel dillad, teganau ac offer sydd mewn cyflwr digon da i'w defnyddio eto i’ch siop elusen leol.

Gallwch hefyd eu rhoi am ddim ar wefannau fel Freegle (gwefan allanol) neu Freecycle (gwefan allanol).

Neu, os ydych chi eisiau gwneud rhywfaint o arian ychwanegol, gallech eu gwerthu ar Marketplace ar Facebook (gwefan allanol) neu ar-lein.

Menter gymdeithasol 'Co-Options'

Mae'r fenter gymdeithasol Co-Options (gwefan allanol) yn elusen sy'n seiliedig yn Sir Ddinbych, maent yn casglu tecstilau, esgidiau ac eitemau plant y gellir eu hailwerthu ar ymyl palmant bob pythefnos. Maent yn gwerthu eitemau y gellir eu hailddefnyddio drwy eu siop elusen leol yn y Rhyl, “Kit out the Kids and Family" (gwefan allanol) er mwyn codi arian hanfodol i helpu i ddarparu gwaith yn y gymuned a darparu swyddi i oedolion diamddiffyn. Caiff eitemau sydd wedi gwisgo gormod i gael eu hailwerthu eu paratoi ar gyfer y marchnadoedd ailgylchu.

Er mwyn darganfod os yw’r gwasanaeth hwn yn gweithredu yn eich ardal chi, neu os hoffech chi wybod ble mae eich man casglu agosaf, cysylltwch â Co-Options ar 01745 332300 neu ymwelwch â'u gwefan (gwefan allanol).