Beth ddylwn i ei wneud â gwastraff compostadwy?

Gall pilion llysiau, glaswellt wedi’i dorri, tocion coed, bagiau te a choffi mâl, gwallt, cardbord tenau a phapur newydd, hancesi papur (wedi’u torri’n ddarnau bach) a phapur wedi’i rwygo’n fân fynd i’ch bin compost gartref os oes gennych chi un.

Mae cadw swp compost agored, llwyddiannus yn eich gardd hefyd o fudd mawr i fywyd gwyllt lleol, drwy ddenu pryfetach mae anifeiliaid yn eu bwyta, fel draenogod ac adar bach.

Peidiwch â chymysgu gwastraff gardd gyda bwyd na deunyddiau compostio eraill fel papur, cerdyn neu bapur newydd yng nghasgliadau bin gwyrdd y Cyngor.

Gall ychydig o gompost gael ei roi yn eich bin gwastraff gardd (er enghraifft, compost sydd ar wreiddiau planhigyn).

Dylech roi cyfeintiau mwy o gompost yn y sgip gwastraff cyffredinol yn ein Parc Ailgylchu a Gwastraff lleol.