Beth ddylwn i ei wneud â phacedi bwyd cath?
Nid oes posib' ailgylchu pacedi bwyd cath gan eu bod wedi’u gwneud o ddeunyddiau cymysg.
Rhowch nhw yn eich bin gwastraff cyffredinol du neu sachau pinc.
Bin gwastraff cyffredinol du.
Sachau pinc.
O bryd i’w gilydd, bydd gwneuthurwyr cynnyrch sy’n anodd eu hailgylchu’n gweithio gyda chwmni o’r enw Terracycle i gynnig mannau gollwng lleol neu labeli postio ar gyfer eu cynnyrch.
Gallwch ddarganfod a yw eitem yn cael ei dderbyn a lleoliad eich man gollwng agosaf drwy ymweld â gwefan Terracycle (gwefan allanol). Mae’r lleoliadau hyn fel arfer yn cael eu cynnal gan wirfoddolwyr unigol ac yn amodol ar newid.