Beth ddylwn i ei wneud â phapur lapio?

Nid oes posib' ailgylchu papur lapio sydd â glityr a phlastig arno.

Gallwch waredu papur lapio sydd â glityr a phlastig arno yn defnyddio cynhwysydd priodol eich gwasanaeth ailgylchu a gwastraff ar gyfer nwyddau na ellir eu hailgylchu, neu mewn Parc Ailgylchu a Gwastraff: 

Gwasanaeth Trolibocs

Gwasanaeth bagiau

Gwasanaeth biniau cymunedol


Symbol ailgylchu papur

Gellir ailgylchu papur lapio plaen ar ôl tynnu unrhyw selotep, rhubanau a chlymau.

Gallwch ddefnyddio’r ‘prawf crensian’ papur lapio fel ffordd o wirio a sicrhau. Os ydych chi’n crensian y papur yn eich llaw ac os ydyw’n aros mewn pêl, fe allwch ei ailgylchu, os nad yw’n aros fel pêl, bydd angen i chi ei roi yn cynhwysydd priodol eich gwasanaeth ailgylchu a gwastraff ar gyfer nwyddau na ellir eu hailgylchu.

Gallwch ailgylchu bapur lapio plaen yn defnyddio cynhwysydd priodol eich gwasanaeth ailgylchu a gwastraff neu mewn Parc Ailgylchu a Gwastraff:

Gwasanaeth Trolibocs

Gwasanaeth bagiau

Gwasanaeth biniau cymunedol

Mwy o wybodaeth

Mae gwasanaeth ailgylchu a gwastraff y cartref yn wasanaeth ar gyfer preswylwyr Sir Ddinbych.

Mae modd i fusnesau, elusennau a sefydliadau sector cyhoeddus ddefnyddio ein gwasanaethau gwastraff masnachol neu ddefnyddio contractwr rheoli gwastraff preifat trwyddedig.

Mwy o wybodaeth, yn cynnwys pa wasanaethau gwastraff masnachol sydd ar gael.