Maes parcio Lôn Las

Parciau ailgylchu a gwastraff: Cau oherwydd gwyntoedd cryfion, 7 Rhagfyr 2024

Bydd y parciau ailgylchu isod ar gau i bob ymwelydd dydd Sadwrn 7 Rhagfyr 2024 oherwydd y rhagolygon tywydd am wyntoedd cryfion.

Rydym yn ymddiheuro am yr anghyfleustra ac yn diolch am eich amynedd.

Bydd angen i chi drefnu apwyntiad cyn ymweld â Pharc Gwastraff ac Ailgylchu.

Darganfyddwch sut i archebu lle mewn Parc Gwastraff ac Ailgylchu

Maes parcio Lôn Las
Corwen
LL21 0DN

Dim ond preswylwyr o Sir Ddinbych (Dyffryn Dyfrdwy) gallai defnyddio’r parc ailgylchu yma.

Mi fydd angen i chi darparu tystiolaeth i ddangos eich bod yn breswyliwr o Sir Ddinbych (e.e. trwydded gyrru neu bil cyfleustodau) er mwyn ddefnyddio'r parc ailgylchu yma.

Ni fydd mynediad yn cael ei ganiatáu i bobl sydd ddim yn breswyliwr o Sir Ddinbych.

Amseroedd agor

9am i 11am pob 1af a 3ydd Dydd Sadwrn y mis - ailgylchu a chael gwared ar wastraff a gwastraff yr ardd.

Ar gau ar unrhyw 5ed dydd Sadwrn o’r mis.

Beth allaf ddod gyda mi?

  • Eitemau'r cartref megis dodrefn, plastigion caled (er enghraifft, teganau), metel sgrap, eitemau trydanol (er enghraifft oergelloedd, poptai) ac eitemau mawr megis matresi.
  • Eitemau i'w hailgylchu fel poteli plastig, caniau tun, cardfwrdd, papur a photeli/jariau gwydr.
  • Gwastraff yr ardd (dim pridd - gofynnir i chi ysgwyd unrhyw bridd oddi ar blanhigion a llwyni).
  • Eitemau nad oes modd eu hailgylchu fel polystyren.

Beth na allaf ddod gyda mi?

  • Peidiwch â dod a gwastraff anhrefnedig - sicrhewch eich bod yn gwahanu eich eitemau ailgylchu cyn i chi ddod.
  • Ni allwn dderbyn gwastraff peryglus na gwastraff DIY neu adeiladu fel rwbel, pridd, brics, teils, poteli nwy, ffelt toi, ffenestri, drysau, pren neu fwrdd plastr. Bydd angen mynd â’r eitemau hyn i’r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.

Map o'r lleoliad

Sgipiwch y map gweladwy.