Ymweld â'n Parciau Gwastraff ac Ailgylchu

Mae ein Parciau Gwastraff ac Ailgylchu yn agored yn ystod eu horiau arferol ac rydym wedi cyflwyno system archebu i sicrhau eu bod yn ddiogel i chi eu defnyddio ac i’n staff weithio ynddynt.

Sut i archebu lle mewn Parc Gwastraff ac Ailgylchu

Gallwch archebu lle mewn Parc Gwastraff ac Ailgylchu ar-lein ble gallwch ddewis amser ar gael sy'n addas i chi. Gallwch archebu hyd at chwech apwyntiad mewn unrhyw gyfnod o ddau fis.

Archebu lle mewn Parc Gwastraff ac Ailgylchu arlein

Gallwch hefyd archebu lle drwy ein ffonio ni ar 01824 706000.

Efallai y bydd angen i ni gau parc ailgylchu a gwastraff dros dro oherwydd tywydd garw.

Mae'r Swyddfa Dywydd yn cyhoeddi rhybuddion tywydd garw (gwefan allanol), a byddwn yn cau unrhyw safle os bydd rhybudd tywydd coch yn weithredol ar gyfer yr ardal honno. Mae'n debygol y byddwn yn cau safle os bydd rhybudd tywydd oren yn weithredol, ac efallai y byddwn yn cau safle os ceir rhybudd melyn. Gofynnwn i chi fod yn ymwybodol o unrhyw rybuddion (gwefan allanol) a'u cadw mewn cof wrth archebu lle ac ymweld â ni.

Dysgwch fwy ar wefan Bryson (gwefan allanol).

Canslo neu ddiwygio archeb

Os nad oes arnoch chi angen eich archeb neu’n methu ymweld â’r parc gwastraff ac ailgylchu mwyach, a fyddech cystal â chanslo eich archeb os gwelwch yn dda, er mwyn i ni fedru cynnig eich lle i rywun arall.

Gallwch ganslo neu ddiwygio eich archeb drwy ddilyn y cyfarwyddiadau yn e-bost cadarnhau eich archeb.

Fel arall, gallwch ffonio 01824 706000 i ganslo neu ddiwygio’ch archeb.

Trwyddedau

Bydd arnoch angen trwydded ar gyfer ein Parciau Ailgylchu a Gwastraff os byddwch chi’n dod â gwastraff mewn trelar sydd â mwy nag un echel neu gerbyd o fath masnachol.

Gwneud cais neu adnewyddu trwydded Ban ar Fan

Beth ydych angen ei wybod wrth ymweld â Pharc Gwastraff ac Ailgylchu

Wrth archebu i ymweld â Pharc Gwastraff ac Ailgylchu, mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod yn:

  • dod â thystiolaeth o’ch cyfeiriad (fel trwydded yrru neu fil gwasanaeth)
  • dewch â’ch rhif cyfeirnod archebu gyda chi neu ni fyddwch yn cael mynediad i’r safle
  • cyrhaeddwch ar amser gan y byddwch ond yn cael mynd i'r safle ar yr amser a roddwyd i chi
  • didolwch yr holl eitemau a deunyddiau cyn cyrraedd y safle
  • arhoswch yn eich car nes byddwch yn cael caniatâd i ddod allan gan aelod o staff
  • ni ddylai mwy na dau o bobl adael eich car i ddadlwytho gwastraff ac ailgylchu.
  • dylech gydymffurfio â mesurau ymbellhau cymdeithasol bob amser neu gofynnir i chi adael y safle.
  • parchwch ein staff; mae rheolau safle ar waith i’ch diogelu chi a defnyddwyr eraill y safle, ac ni fydd ein staff yn mynd ar y safle os bydd gennych chi neu rhywun sy’n byw gyda chi symptomau COVID-19, fel tymheredd uchel neu beswch newydd, parhaus.