Newidiadau i'n Parciau Ailgylchu a Gwastraff (o 1 Ebrill 2022)

O 1 Ebrill 2022, bydd trigolion Sir Ddinbych yn gweld rhai newidiadau i’n parciau gwastraff ac ailgylchu.

Bydd ein tri phrif safle yn Ninbych, Rhuthun a'r Rhyl yn cael eu rheoli gan Bryson PLC. Rydym wedi mynd i gytundeb newydd ar y cyd â Chyngor Conwy gyda'r cwmni profiadol hwn, a fydd yn ein helpu ni i gyrraedd ein targedau ailgylchu yn y dyfodol a chynyddu’r swm o wastraff a anfonir i gael ei ailddefnyddio.

Bydd ymwelwyr yn sylwi ar fanteision eraill yn ein safleoedd, gan gynnwys:

  • arwyddion newydd
  • oriau agor cynnar
  • mynediad gwell
  • ystod eang o eitemau a dderbynnir yn ein safleoedd yn Rhuthun a Dinbych
  • compost am ddim
  • Y defnydd o ddau Barc Gwastraff ac Ailgylchu Conwy yn Abergele a Mochdre os yw'r rhain yn agosach at eich cartref, neu os ydych yn pasio heibio wrth deithio i'r gwaith neu ymweld â ffrindiau a theulu
  • Bydd siop elusen Rhyl Re-use ar agor 7 diwrnod yr wythnos o fis Mai 2022. Nnid oes angen archebu lle i ymweld â'r Siop. Mae'r Siop ar gau ar hyn o bryd er mwyn stocio.

Ffioedd newydd o 1 Ebrill ar gyfer mathau o wastraff nad ydynt yn wastraff y cartref

Mae gwastraff DIY neu wastraff adeiladu o waith neu welliannau yn eich cartref yn cael ei ddosbarthu fel gwastraff diwydiannol, ac nid gwastraff cartref (gwastraff sy’n cael ei greu’n ddyddiol yn eich cartref). Mae Treth y Cyngor yn cwmpasu cost casglu, ailgylchu a gwaredu eich gwastraff cartref.

Nid yw'r Cyngor yn gorfod derbyn deunyddiau DIY neu adeiladu i'w waredu. Fodd bynnag, rydym yn deall bod preswylwyr yn creu’r math hwn o wastraff o bryd i’w gilydd, felly rydym yn ei dderbyn yn ein Parciau Gwastraff ac Ailgylchu, gyda ffi fechan i’w dalu am gostau trin a gwaredu’r gwastraff. Nid yw’r ffioedd wedi cael eu dylunio i wneud elw, ac maent yn cael eu cadw mor isel â phosib i bawb.

Ffioedd gwastraff ac ailgylchu (gwastraff DIY)

Mae'r newid hwn wedi cael ei gyflwyno i'n galluogi ni i leihau ein costau cyffredinol o ddarparu Gwasanaeth Parc Ailgylchu. Mae hyn yn helpu'r Cyngor i reoli cyllideb gytbwys a pharhau i gefnogi ein gwasanaethau blaenoriaeth ar gyfer pobl Sir Ddinbych. 

Mae cyflwyno ffioedd bychain fel y rhain hefyd yn helpu i gael gwared â'r temtasiwn i fusnesau daflu eu gwastraff yn anghyfreithlon yn ein safleoedd. Er fod gennym reolyddion llym mewn lle i osgoi hyn, gwyddwn fod rhai gwastraff o weithgarwch masnachol weithiau yn gwneud ei ffordd i'n safleoedd gan fasnachwyr.  

Cwestiynau Cyffredin

Rwy'n cael trafferth cyrraedd y Parc Ailgylchu a Gwastraff

Os na allwch ymweld neu'n cael anhawster defnyddio'r Parc Ailgylchu a Gwastraff, mae'r Cyngor yn cynnig Gwasanaeth Casglu Gwastraff Swmpus a delir amdano. Bydd staff yn dod i’ch eiddo ac yn cael gwared ar eitemau mawr neu swmpus. Bydd eitemau na ellir eu derbyn yn y Parciau Ailgylchu a Gwastraff ddim yn gymwys ar gyfer casgliad Gwastraff Swmpus.

Gwnewch gais a thalu am gasgliad eitem swmpus ar-lein

Mae gennyf wastraff masnachol nad oeddwn yn cael mynd i'r Parc Ailgylchu a Gwastraff

Os oes gennych eitemau ailgylchadwy neu ddeunydd gwastraff o gynnal eich busnes yn ddyddiol (er enghraifft, bagiau o duniau, gwydr, papur neu blastig) yna mae’r gyfraith yn datgan bod rhaid i chi ddefnyddio cludydd gwastraff masnach trwyddedig.

Bydd arnoch angen prawf o’ch llwythi (a adnabyddir fel Nodyn Trosglwyddo Gwastraff a Reolir) ar eich eiddo drwy’r amser. Dylech allu cynhyrchu’r rhain drwy gais i swyddogion y Cyngor neu Gyfoeth Naturiol Cymru.

Mae'r Cyngor yn cynnig gwasanaeth casgliad gwastraff masnachol i fusnesau yn Sir Ddinbych, ar gyfer gwastraff cyffredinol ac ailgylchu.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i'n tudalennau Gwastraff Masnach.

Rwyf wedi cael fy ngwrthod o'r Parc Ailgylchu a Gwastraff oherwydd bod gennyf ormod o'r un math o wastraff

Mae'r Canolfannau Ailgylchu a Gwastraff / Parciau Ailgylchu a Gwastraff yn gweithredu dan bolisi 'defnydd teg'.

Os oes gennych swm uchel o’r un peth (er enghraifft os ydych yn casglu eitemau fel hobi ac yna yn dymuno cael gwared ar yr un eitem) efallai na fydd staff ein safle yn caniatáu i chi adael eich holl wastraff ar yr un tro. Mae hyn i roi cyfle teg i eraill gael defnyddio'r safleoedd hyn tan y gellir gwagio'r cynhwysion.

Os yw hyn yn digwydd i chi, gallwch fynd ag ychydig o’ch eitemau i bob safle. Os ydych angen cael gwared ar eich holl eitemau ar y un pryd, efallai bydd rhaid i chi hurio cwmni gwaredu gwastraff (preifat) arbenigol.

Polisi'r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref

Mae gennyf fath arall o wastraff sydd ddim yn cael ei dderbyn mewn Parc Ailgylchu a Gwastraff / Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref

Mae'r Cyngor yn ceisio derbyn gymaint o fathau o wastraff â phosib gan breswylwyr, ond ni allwn dderbyn rhai eitemau am resymau cyfreithiol neu bryderon Iechyd a Diogelwch.

Mae bron holl wastraff mae aelwyd yn ei gynhyrchu ar gyfartaledd i fyw o ddydd i ddydd yn gallu cael ei gludo i'r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref. Ond mae rhai eitemau na all y Cyngor eu derbyn, naill ai oherwydd nad ydym wedi paratoi i ddelio â hwy neu oherwydd y byddai’n anghyfreithlon i ni eu derbyn.

Ni fydd yr eitemau hyn yn cael eu derbyn yn y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref mewn unrhyw amgylchiadau:

Eitemau nas derbyniwyd
Eitem Gwybodaeth ychwanegol
Gwastraff Clinigol Heintus (nodwyddau, rhwymynnau neu fagiau colostomi) Siaradwch gyda'ch Meddyg Teulu, fferyllfa leol neu nyrs gymunedol am gymorth i waredu gwastraff clinigol heintus.
Petrol a diesel Byddwch angen cysylltu gydag arbenigwr gwaredu tanwydd lleol i waredu petrol neu ddiesel.
Ffrwydron rhyfel Gallwch ildio ffrwydron rhyfel yn eich gorsaf heddlu lleol, drwy ddeliwr arfau cofrestredig neu i ddeilydd tystysgrif arfau tân arall.

Ni dddylech ei waredu eich hun.
Tân gwyllt a fflachiadau morol Lle bo’n bosibl, dilynwch ganllawiau'r gwneuthurwr i'w gwaredu.

Gall tân gwyllt sydd wedi llosgi'n unig gael eu socian yn llwyr mewn dŵr, eu rhoi mewn bag ac yn eich bin sbwriel. Mae'n anghyfreithlon gwaredu tân gwyllt neu fflachiadau heb losgi yn y dull hwn.
Deunydd ffrwydrol Gweler y canllawiau uchod ar dân gwyllt a ffrwydron rhyfel.
Meddyginiaeth Dylid gwaredu meddyginiaethau neu gynnyrch cysylltiol drwy eich meddygfa neu fferyllfa leol
Carcas Anifeiliaid Ni ellir gwaredu carcas anifeiliaid anwes na bywyd gwyllt mewn Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref. Cysylltwch â’r filfeddygfa agosaf am gyngor.
Rhywogaethau planhigion ymledol Yn cynnwys: Llysiau'r Dial, Ffromlys Chwarennog, Efwr Enfawr, Llysiau'r Gingroen. Gweler arweiniad gan Gyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer delio gyda chwyn ymledol (gwefan allanol).
Oergellau/Rhewgellau Masnachol Os oes gennych oergell/rhewgell fasnachol fawr yn eich cartref byddwch angen cysylltu â chwmni masnachol i’w symud.
Pa eitemau mae'n rhaid i mi ei dalu amdanynt i waredu mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref?

Gallwch ailgylchu y rhan fwyaf am ddim yn y Parciau Ailgylchu a Gwastraff/ Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref, ond mae’n rhaid i chi dalu i gael gwared ar rai eitemau. Gallwch fynd â’r eitemau hyn i’r Parciau Ailgylchu a Gwastraff/ Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref am ffi fechan.

Mae’r holl ffioedd yn ddilys yn y flwyddyn ariannol gyfredol.

Mae bag yn golygu’r un maint â bag bach plastig tywod neu gerrig mân o siopau DIY arferol sy’n gallu cael eu codi’n ddiogel gan un person. Mae bag wedi’i lenwi'n rhannol yn cyfrif fel un bag.

Mae llwyth trelar yn seiliedig ar drelar 1.8m x 1.25m x 0.5m.

Bydd gwastraff sydd ddim mewn bag, neu’n rhydd, yn cael ei godi ar y gyfradd y bagiau, yn seiliedig ar 30kg fesul bag am rwbel, a 20kg fesul bag am bren. Er enghraifft, byddai llwyth 40kg o bren yn cael ei gyfrif fel dau fag.

Pam bod ffioedd ar gyfer y gwastraff hwn?

Mae gwastraff DIY neu wastraff adeiladu o waith neu welliannau yn eich cartref yn cael ei ddosbarthu fel gwastraff diwydiannol, ac nid gwastraff cartref (gwastraff sy'n cael ei greu'n ddyddiol yn eich cartref). Mae Treth y Cyngor ond yn cyflenwi cost casglu, ailgylchu a gwaredu â gwastraff cartref.

Nid yw'r Cyngor yn gorfod derbyn deunyddiau DIY neu adeiladu i'w waredu. Fodd bynnag, rydym yn deall bod preswylwyr yn creu’r math hwn o wastraff o bryd i’w gilydd ac felly yn ei dderbyn yn ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref, gyda ffi fechan i'w dalu am gostau trin a gwaredu'r gwastraff. Nid yw’r ffioedd wedi cael eu dylunio i wneud elw, ac maent yn cael eu cadw mor isel â phosib i bawb. Os oes gennych swm uchel o ddeunydd taladwy, fe’ch cynghorir i geisio am ddyfynbrisiau gan weithredwr sgip trwyddedig, efallai gallai hyn fod yn rhatach ac yn fwy cyfleus i chi. Gwnewch yn siŵr bod unrhyw un sy’n mynd â’ch gwastraff wedi cofrestru fel cludydd gwastraff a’ch bod yn cadw derbynneb o’ch trafodyn. Mae gennych ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau bod eich gwastraff yn cael ei waredu’n gyfrifol.

Gallwch wirio i weld os yw busnes wedi’i gofrestru fel cludydd gwastraff drwy ymweld â gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru (gwefan allanol).

Sut ydw i'n talu?

Oherwydd rhesymau diogelwch safle, mae pob safle Sir Ddinbych yn safleoedd heb arian. Bydd gofyn i chi dalu gyda cherdyn credyd neu ddebyd ar ôl cyrraedd, a chewch eich cyfeirio at y bae talu. Bydd gweithiwr yn edrych (ac yn pwyso os bydd rhaid) eich gwastraff taladwy ac yn cymryd y taliad drwy beiriant talu symudol. Gallwch ofyn am dderbynneb o’ch trafodyn.

Os na allwch dalu, byddwn yn gofyn i chi adael y safle gyda’ch gwastraff DIY a dychwelyd gyda’r taliad. Bydd rhaid i chi archebu slot arall i ddychwelyd ar amser diweddarach. Byddwch yn gallu cael gwared ar unrhyw wastraff arall y cartref rydych wedi dod gyda chi am ddim.

Mae staff ein safle yn cadw’r hawl i wrthod mynediad os ydych:

  • yn ceisio cael gwared ar swm anghymesur o wastraff a dderbynnir (am ddim neu fel arall)
  • dan amheuaeth eich bod yn cael gwared ar wastraff busnes
  • yn camddefnyddio rheolau'r safle.