Budd-daliadau tai ar gyfer tenantiaid preifat
Os ydych chi’n rhentu eiddo neu ystafell gan landlord preifat a chithau ar incwm isel, fe allech fod â hawl i help efo’ch rhent drwy Lwfans Tai Lleol. Fel rheol bydd eich Lwfans Tai Lleol yn cael ei dalu’n uniongyrchol i chi a chi sy’n gyfrifol am dalu’r rhent i’ch landlord.
Gallwch fod â hawl i gymorth gyda'ch rhent trwy Gredyd Cynhwysol. Os nad ydych yn gymwys ar gyfer Credyd Cynhwysol, efallai bod gennych hawl i fudd-daliadau tai.
Gwiriwch i weld a ydych yn gymwys am Gredyd Cynhwysol (gwefan allanol)
Mae lefel Costau Tai o fewn Credyd Cynhwysol yn defnyddio’r un cyfraddau ag LHA.
Os ydych yn cael hawlio Credyd Cynhwysol, bydd angen i chi hawlio Gostyngiadau Treth y Cyngor a phrydau ysgol am ddim o hyd.
Cyfraddau Lwfans Tai Lleol
Mae Lwfans Tai Lleol yn seiliedig ar nifer y llofftydd a ganiateir i bobl, nid faint ydi’r rhent.
Mae nifer y llofftydd a ganiateir yn dibynnu ar bwy sy’n byw efo’r tenant. Mae gennych hawl i gael un ystafell wely ar gyfer:
- Pob un oedolyn neu gwpl sy'n oedolion ( wedi priodi neu ddim )
- Unrhyw oedolyn arall 16 oed neu'n hŷn
- Unrhyw ddau blentyn o dan 10 oed
- Unrhyw ddau blentyn o'r un rhyw o dan 16 oed .
- Unrhyw blentyn arall
Gallwch ffeindio beth fyddech chi â hawl iddo drwy ddefnyddio’r Cyfrifiannell Llofft GOV.UK neu ein cyfrifiannell budd-dal.
Chwilio am gyfraddau Lwfans Tai Lleol
Caiff cyfraddau Lwfans Tai Lleol eu gosod gan ddefnyddio Ardaloedd Marchnad Rentu Eang. Ardaloedd lle gellid disgwyl yn rhesymol i unigolyn fyw ynddynt yw’r rhain, a gallant gwmpasu nifer o ardaloedd awdurdod lleol.
Gallwch chwilio am gyfraddau Lwfans Tai Lleol ar wefan Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Chwiliwch am gyfraddau Lwfans Tai Lleol yn ôl cod post neu awdurdod lleol (gwefan allanol)
Sut i ymgeisio
Gofalwch eich bod yn ymgeisio gyn gynted ag sydd bosib er mwyn cael eich hawl llawn. Bydd angen i chi lenwi ffurflen gais; gallwch wneud hynny ar-lein a darparu tystiolaeth ychwanegol.
Llenwi ffurflen gais ar lein
Gallwch hefyd ddefnyddio’r ffurflen hawlio i hawlio gostyngiad treth y Cyngor a phrydau ysgol am ddim.
Os ydych wedi gwneud cais, gallwch fewngofnodi i'ch cyfrif neu gofrestru eich manylion i wirio eich hawl ar-lein.
Mewngofnodi neu gofrestru i weld eich hawl i fudd-dal tai
Newid amgylchiadau
Os bydd yna newid yn amgylchiadau eich aelwyd, rhowch wybod i ni yn syth gan y bydd yn effeithio ar eich cais, mae’n debyg. Os na fyddwch yn ein diweddaru mewn pryd, gallech fod ar eich colled neu orfod talu arian yn ôl.
Os ydych wedi symud cyfeiriad, gallwch roi gwybod am newid cyfeiriad ar-lein
Gallwch gysylltu â ni am unrhyw newidiadau eraill yn eich amgylchiadau.
Tystiolaeth ychwanegol
Allwn ni ddim talu eich budd-dal nes y byddwn wedi gweld y dogfennau gwreiddiol canlynol;
- Rhifau Yswiriant Gwladol ar eich cyfer chi a’ch partner.
- Dwy ddogfen adnabod (y person)
- Cyfalaf, cynilion a buddsoddiadau.
- Enillion.
- Unrhyw incwm arall.
- Unrhyw fudd-daliadau, lwfansau neu bensiynau.
- Eich tenantiaeth.
Gellir mynd â’r rhain i Dŷ Russell, ein llyfrgelloedd, a Siopau Un Alwad.
Partneriaid
Golyga ‘partner’ berson rydych chi wedi priodi â nhw, rydych yn byw efo nhw fel pe baech chi wedi priodi, partner sifil neu berson rydych chi’n byw efo nhw fel pe baech chi’n bartneriaid sifil.
Beth allaf i ei wneud os byddaf yn anghytuno â phenderfyniad budd-dal tai?
Os na fyddwch chi’n fodlon â phenderfyniad am eich hawl i fudd-daliadau, ewch i’n tudalen apeliadau i weld beth allwch chi ei wneud ac a oes help ar gael.