Ardrethi busnes: Gostyngiad Trosiannol

Mae gostyngiad trosiannol ardrethi busnes yn gynllun gan y llywodraeth sy’n cyfyngu faint y gall biliau ardrethi busnes newid bob blwyddyn yn dilyn ailbrisio eiddo.

Gostyngiad Trosiannol Ebrill 2026 - Mawrth 2028

Bydd y cynllun gostyngiad trosiannol hwn yn cyfyngu ar gynnydd mewn biliau ardrethi busnes, o ganlyniad i’r ailbrisio ar 1 Ebrill 2026.

Ariennir y gostyngiad trosiannol yn llawn gan Lywodraeth Cymru a chaiff ei ddiffinio yn Rheoliadau Ardrethu Annomestig 2025. Mae'r Rheoliadau yn rhagnodi rheolau sydd i'w defnyddio i gyfrifo'r swm a godir ar gyfer eiddo cymwys sydd â chynnydd yn ei rwymedigaeth Ardrethi Annomestig o fwy na £300, o ganlyniad i'r ailbrisiad. Mae'r gostyngiad ar gael i drethdalwyr ar y rhestr leol ac ar y rhestr ganolog.

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu £116m dros ddwy flynedd i ariannu’r gostyngiad trosiannol, gan gefnogi pob agwedd o’r sail dreth trwy gynllun pontio cyson a syml.

Bydd gan drethdalwyr cymwys hawl i ostyngiad graddol dros ddwy flynedd fel a ganlyn:

  • blwyddyn 1: 33% o’u hatebolrwydd ychwanegol yn y flwyddyn gyntaf (2026-27) 
  • blwyddyn 2: 66% yn yr ail flwyddyn (2027-28)
  • blwyddyn 3: atebolrwydd cyflawn yn y drydedd flwyddyn (2028-29)

Bydd eiddo (hereditament) yn gymwys am ostyngiad trosiannol os bodlonir yr holl amodau canlynol:

  • Roedd wedi’i gynnwys ar restr leol neu ar y rhestr ganolog ar 31 Mawrth 2026, y diwrnod cyn i'r rhestrau newydd ddod i rym ar 1 Ebrill 2026.
  • Mae’r atebolrwydd ardrethi busnes yn cynyddu o fwy na £300 wrth gymharu’r swm newydd a godir gyda’r bil blaenorol.
  • Mae’r un trethdalwr yn gyfrifol am yr eiddo ar y diwrnod perthnasol ac ar 31 Mawrth 2026. Os yw’r trethdalwr yn newid, bydd y rhyddhad yn dod i ben.
  • Roedd yr eiddo wedi’i feddiannu ar 31 Mawrth 2026 gan yr un trethdalwr.
  • Nid yw’r eiddo yn ddarostyngedig i ddosraniad ar gyfer eiddo a feddiannir yn rhannol o dan adran 44A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988.

I wybod mwy am yr Ardrethi Annomestig – Rhyddhad Ardrethi Trosiannol ar gyfer Ailbrisiad 2026 (gwefan allanol).

Gostyngiad Trosiannol Ebrill 2023 - Mawrth 2026

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cynllun i gynorthwyo i ddiogelu busnesau bach rhag effaith ailbrisiad 2023, gan gyfyngu'r cynnydd yn y symiau sy'n daladwy. Mae'r cynllun wedi'i ddylunio fel a ganlyn.

  • Ni fydd unrhyw gynnydd mewn ardrethi taladwy hyd at £300 yn derbyn gostyngiad trosiannol.
  • Mae'r gostyngiad trosiannol yn gysylltiedig â'r cyfrif fel y bo ar 1 Ebrill 2023 felly bydd unrhyw newid mewn atebolrwydd e.e. newid mewn meddiannaeth yn terfynu'r gostyngiad o ddyddiad y newid

Bydd gan drethdalwyr cymwys hawl i ostyngiad graddol dros ddwy flynedd fel a ganlyn:

  • blwyddyn 1: gostyngiad o 67% yn 2023-24, a;
  • blwyddyn 2: gostyngiad o 34% yn 2024-25
  • blwyddyn 3:  Dim gostyngiad yn 2025-26

Mae'r meini prawf cymhwyso fel a ganlyn:

  • mae'n rhaid i'r trethdalwr fod wedi derbyn cynnydd yn y bil blynyddol o dros £300
  • mae'n rhaid i'r Eiddo fod wedi'i feddiannu ar 31 Mawrth 2023 a 1 Ebrill 2023
  • nid yw gostyngiad trosiannol yn daladwy ar eiddo gwag neu eiddo a feddiannir yn rhannol
  • bydd unrhyw newid mewn atebolrwydd megis bod yr eiddo'n mynd yn wag neu newid meddiannydd, yn terfynu'r gostyngiad

I wybod mwy am yr Ardrethi Annomestig – Rhyddhad Ardrethi Trosiannol ar gyfer Ailbrisiad 2023 (gwefan allanol).

Sut i wneud cais am Ostyngiad Trosiannol

Nid oes angen cyflwyno cais ar gyfer y gostyngiad hwn  gan y bydd y swm newydd yn cael ei gyfrifo'n awtomatig. Fodd bynnag, os ydych chi'n credu eich bod yn gymwys ond nad ydych wedi derbyn unrhyw ostyngiad ac eich bod eisiau i ni adolygu eich achos cysylltwch â ni ar: ardrethibusnes@sirddinbych.gov.uk.