Disgowntiau ac eithriadau ardrethi busnes

Gwybodaeth am disgowntiau ac eithriadau ardrethi busnes sydd ar gael.

Services and information

Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch

Mae’r Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch ar gael i fusnesau cymwys sy’n gweithredu yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch.

Rhyddhad Eiddo Gwag

Nid oes angen talu ardrethi busnes ar eiddo busnes gwag am 3 mis ar ôl i’r eiddo ddod yn anghyfannedd.

Rhyddhad ardrethi busnesau bach

Busnesau gyda Gwerth Ardrethol llai na £6,000 yn derbyn 100% o ostyngiad a bydd busnesau sydd â gwerth ardrethol o £6,000 i £12,000 yn derbyn gostyngiad sy'n lleihau.

Gostyngiad Trosiannol

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cynllun i gynorthwyo i ddiogelu busnesau bach rhag effaith yr ailbrisiad, gan gyfyngu'r cynnydd yn y symiau sy'n daladwy.

Rhyddhad Elusennol

Mae gan elusennau hawl i gael ryddhad rhag trethi ar unrhyw eiddo annomestig a ddefnyddir i ddibenion elusennol yn gyfan gwbl neu’n bennaf.

Sefydliadau dielw

Gall awdurdodau roi rhyddhad yn ôl disgresiwn i eiddo lle nad yw'r deiliaid ar gyfer sefydliadau elw.

Meddiant rhannol

Pan fydd rhan o eiddo heb ei feddiannu dros dro, gall y cyngor ofyn i’r Swyddog Prisio bennu gwerthoedd ardrethol y rhannau sydd wedi eu meddiannu a’r rhannau sydd heb eu meddiannu fel y gellir rhoi rhyddhad ar y rhan sydd heb ei feddiannu.

Rhyddhad caledi

Gall Cynghorau roi rhyddhad i drethdalwr a fyddai’n dioddef caledi drwy dalu’r bil ardrethi cyfan.