Ardrethi busnes: Meddiant rhannol

Pan fydd rhan o eiddo heb ei feddiannu dros dro, gall y cyngor ofyn i’r Swyddog Prisio bennu gwerthoedd ardrethol y rhannau sydd wedi eu meddiannu a’r rhannau sydd heb eu meddiannu fel y gellir rhoi rhyddhad ar y rhan sydd heb ei feddiannu. 

Rhoddir rhyddhad fel bod y trethdalwr yn talu’r ardrethi llawn ar gyfer y rhan sydd wedi ei feddiannu, gyda dyfarniad eithriad i’r rhan sydd heb ei feddiannu am 6 mis ar eiddo diwydiannol, neu 3 mis ar eiddo arall. 

Rhoddir rhyddhad un ai tan ddiwedd y flwyddyn ariannol neu hyd y dyddiad pan na fydd yr eiddo wedi ei feddiannu’n rhannol. 

Sut i ymgeisio

I ymgeisio am y rhyddhad yma, cyflenwch gais ysgrifenedig ynghyd â set o gynlluniau/ddyluniadau gyda mesuriadau’r eiddo sy’n dangos yn glir y rhannau sy’n cael eu meddiannu ac sydd ddim wedi eu meddiannu, ynghyd â’r dyddiad effeithiol y mae’r rhyddhad yn ofynnol. Dylid anfon ceisiadau i Tŷ Russell.