Ardrethi busnes: Rhyddhad ardrethi busnesau bach

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymestyn y cynllun presennol felly bydd Busnesau gyda Gwerth Ardrethol llai na £6,000 yn derbyn 100% o ostyngiad a bydd busnesau sydd â gwerth ardrethol o £6,000 i £12,000 yn derbyn gostyngiad sy'n lleihau. Ni fydd busnesau â Gwerth Ardrethol sy'n fwy na £12,000 yn derbyn unrhyw ostyngiad. Mae meini prawf cymhwyso, fel y nodwyd gan Gynulliad Cymru. Mae’r rheolau fel a ganlyn:

  • Mae'n rhaid i'r eiddo fod wedi'i feddiannu ar adeg hawlio'r gostyngiad
  • Nid yw Cyrff y Sector Cyhoeddus megis y Cyngor yn gymwys ar gyfer gostyngiad
  • Nid yw trethdalwyr sy'n derbyn Rhyddhad Elusennol Gorfodol yn gymwys ar gyfer gostyngiad
  • Nid yw dosbarthiadau penodol o eiddo megis Meysydd Parcio, Hawliau Hysbysebu a mastiau Cyfathrebu Ffôn yn gymwys ar gyfer gostyngiad.

Mewn achosion lle bo'r talwr ardrethi yn gyfrifol am fwy na dau eiddo ar restr ardrethu annomestig sengl lleol (“rhestr leol”), a bod yr eiddo hynny’n diwallu’r amodau gwerth ardrethol yn unig, yna bydd y talwr ardrethi yn derbyn rhyddhad am uchafswm o ddau eiddo o’r fath.

O dan Erthygl 4 y rheoliadau, pan fydd talwr ardrethi yn gyfrifol am dalu ardrethi busnes ar gyfer mwy na dau eiddo a nodir ar restr Ardrethi Annomestig lleol ym mhob ardal y Cyngor, sy’n bodloni’r amodau gwerth ardrethol, mae’n rhaid i’r talwr ardrethi roi hysbysiad o’r eiddo hynny i’r Cyngor cyn gynted ag y bo’n rhesymol gwneud hynny.

Cyfrifoldeb y talwr ardrethi yw rhoi gwybod i'r Cyngor os ydynt yn derbyn mwy na dau Ryddhad Ardrethi Busnesau Bach mewn perthynas ag unrhyw eiddo y maent yn gyfrifol am dalu eu hardrethi busnes. I roi gwybod am newid mewn amgylchiadau gallwch gysylltu â ni.

Ar gyfer busnesau sydd eisoes yn derbyn y gostyngiad hwn nid oes angen ail-ymgeisio gan y bydd y swm newydd yn cael ei gyfrifo'n awtomatig. Fodd bynnag, efallai y  bydd rhai eiddo yn gymwys ar gyfer gostyngiad yn awr ac os ydych chi eisiau i ni adolygu eich achos cysylltwch â ni ar: ardrethibusnes@sirddinbych.gov.uk neu ffôn 01824 706000.