Ardrethi busnes: Rhyddhad Eiddo Gwag

Nid oes angen talu ardrethi busnes ar eiddo busnes gwag am 3 mis ar ôl i’r eiddo ddod yn anghyfannedd.

Mae eithriadau ychwanegol ar gyfer mathau penodol o eiddo, neu eiddo â gwerth trethiannol sy’n llai na lefel benodol.  Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Safleoedd diwydiannol, fel warysau, sy’n cael eu heithrio am 3 mis pellach
  • Adeiladau rhestredig sy’n cael eu heithrio nes iddynt gael eu meddiannu eto
  • Adeiladau â gwerth trethiannol o lai na £2,600 sy’n cael eu heithrio nes iddynt gael eu meddiannu eto
  • Safleoedd sy'n eiddo i elusennau, sy’n cael eu heithrio os yw'r defnydd nesaf a wneir ohonynt yn debygol o fod yn llwyr neu'n bennaf at ddibenion elusennol
  • Adeiladau clybiau chwaraeon amatur cymunedol sy’n cael eu heithrio os yw'r defnydd nesaf a wneir ohonynt yn debygol o fod yn llwyr neu'n bennaf at ddibenion clwb chwaraeon
  • Busnesau dan berchnogaeth cwmni sy'n cydymffurfio â’r gorchymyn dirwyn i ben a wneir dan Ddeddf Ansolfedd 1986, neu sy’n cael eu dwyn i ben yn wirfoddol dan y Ddeddf honno
  • Busnesau dan berchnogaeth cwmni sydd yn nwylo’r gweinyddwyr o fewn ystyr paragraff 1 o Atodlen B1 i Ddeddf Ansolfedd 1986 neu sy'n ddarostyngedig i  orchymyn gweinyddu a wnaed o dan y darpariaethau gweinyddu blaenorol o fewn ystyr erthygl 3 o Orchymyn Deddf Menter 2002 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2003
  • Busnes y mae gan y perchennog hawl i feddiant yn rhinwedd ei ddyletswydd fel cynrychiolydd personol person ymadawedig yn unig

Ar ôl i'r cyfnod eithrio ddod i ben, byddwch yn gorfod talu'r bil ardrethi busnes llawn.

O 1 Ebrill 2023, bydd y cyfnod y mae’n rhaid i eiddo fod wedi’i ail-feddiannu cyn y gellir dechrau cyfnod gwag eithriedig arall yn cynyddu o 42 diwrnod i 182 diwrnod.

Dylech gysylltu â ni unwaith y bydd eich eiddo’n wag yn ogystal â rhoi gwybod i ni unwaith y caiff ei ail-feddiannu.