Technoleg ar gyfer eich busnes

Mae technoleg yn trawsnewid y ffordd y caiff busnes ei gynnal ym mron pob sector.  Gallwch gael help a chyngor gennym ni a sefydliadau eraill am sut y gall eich busnes ddefnyddio technoleg yn effeithiol.

Sut allwn ni helpu eich busnes ddefnyddio technoleg

Rydym yn darparu cymorth un i un i fusnesau i gael help ymarferol i wella eu defnydd o dechnoleg cyfathrebu. Gallwn eich helpu gyda;

  • Marchnata (gan gynnwys gwefannau, cyfryngau cymdeithasol a gwerthu ar-lein)
  • Diogelwch a storio Data
  • Cyfrifiadura Cwmwl
  • Meddalwedd Busnes
  • Ffonau
  • Gweithio symudol
  • Cael gwell dealltwriaeth o'r holl gyfleoedd posibl ar gyfer eich busnes

Sut i drefnu cymorth un i un

Gallwch gysylltu â ni ar-lein i ofyn am gymorth un i un ar gyfer eich busnes.

Sut mae busnesau lleol yn defnyddio technoleg

Gwyliwch y fideos isod i gael gwybod sut mae busnesau yn Sir Ddinbych yn defnyddio technoleg er mantais iddyn nhw.

Myddelton Grill - Rhuthun

Mae'r fideo a wnaed gyda Myddleton Grill yn rhoi gwybodaeth am feddalwedd Man Gwerthu a manteision Cyfryngau Cymdeithasol.

Gwyliwch fideo Myddleton Grill ar YouTube i wybod mwy (gwefan allanol)

Lawn Master

Mae'r fideo a wnaed gyda Lawn Master yn rhoi gwybodaeth am werth buddsoddi mewn meddalwedd busnes a defnyddio YouTube i hyrwyddo gwasanaethau.

Gwyliwch fideo Lawn Master ar YouTube i wybod mwy  (gwefan allanol)

Ewch i wefan Lawn Master (gwefan allanol)

ProKite Surfing

Mae'r fideo a wnaed gyda Syrffio Barcud Pro yn egluro gwerth gwefan, cyfryngau cymdeithasol a Trip Advisor wrth hyrwyddo’r busnes, yn ogystal â phwysigrwydd WIFI a defnydd arloesol o dechnoleg.

Gwyliwch fideo ProKite Surfing ar YouTube i wybod mwy (gwefan allanol)

Ewch i wefan ProKite Surfing (gwefan allanol)

Elevate Your Sole

Mae'r fideo a wnaed gydag Elevate Yoir Sole yn rhoi gwybodaeth am werthu ledled y byd drwy E-Fasnach, Meddalwedd Man Gwerthu, y Cyfryngau Cymdeithasol a chyfrifiadura Cwmwl.

Gwyliwch fideo Elevate your sole ar YouTube i wybod mwy (gwefan allanol)

Ewch i wefan Elevate your sole (gwefan allanol)

Fifth Wheel

Mae'r fideo a wnaed gyda Fifth Wheel yn rhoi gwybodaeth am bwysigrwydd band eang wrth gyfathrebu â chwsmeriaid, WiFi ar gyfer cleientiaid a defnydd effeithiol o ddadansoddi cyfryngau cymdeithasol.

Gwyliwch fideo Fifth Wheel ar YouTube i wybod mwy (gwefan allanol)

Ewch i wefan Fifth Wheel (gwefan allanol)

Stand Up Paddle Board

Mae'r fideo a wnaed gyda Stand Up Paddle Board yn rhoi gwybodaeth am farchnata ar-lein, hybu gyda fideos ar gyfryngau cymdeithasol, archebu ar-lein 24/7 a buddsoddi yn y dechnoleg ddiweddaraf.

Gwyliwch y fideo Stand Up Paddle Board ar YouTube i wybod mwy (gwefan allanol)

Ewch i wefan Stand Up Paddle Board (gwefan allanol)

DesignWeb

Mae'r fideo a wnaed gyda DesignWeb yn rhoi gwybodaeth am gyfrifiadura cwmwl, buddsoddi mewn caledwedd a meddalwedd a defnyddio band eang cyflym iawn i drosglwyddo ffeiliau mawr yn gyflym.

Gwyliwch fideo Design Web ar YouTube i wybod mwy (gwefan allanol) 

Ewch i Wefan DesignWeb (gwefan allanol)

VizWorx

Mae'r fideo a wnaed gyda VizWorx yn rhoi gwybodaeth am ddefnyddio band eang cyflym iawn ar gyfer trosglwyddo ffeiliau mawr a chyfathrebu â chleientiaid, a defnyddio LinkedIn i gysylltu â chleientiaid busnes newydd.

Gwyliwch fideo VizWorx ar YouTube i wybod mwy  (gwefan allanol)

Cyflymu Busnesau Cymru

Mae Cyflymu Busnesau Cymru yn fenter Llywodraeth Cymru ac yn wasanaeth cymorth i fusnesau wedi'i ariannu'n llawn, sy'n gallu ysbrydoli a thrawsnewid eich busnes. Crëwyd yn benodol i helpu busnesau bach a chanolig eu maint, mae'r gwasanaeth yn darparu gwybodaeth ar-lein helaeth gan gynnwys;

  • canllawiau
  • ffeithlenni
  • awgrymiadau da
  • blogiau
  • astudiaethau achos
  • offer ar-lein
  • gweithdai ymarferol
  • mynediad at arbenigwr Ymgynghorwyr Busnes Digidol.

I dderbyn cymorth ar unwaith, ewch i wefan Cyflymu Busnesau Cymru (gwefan allanol) neu ffoniwch 03000 6 03000 i gael cyngor a chymorth diduedd.

Mwy o wybodaeth

E-bostiwch datblygiad.economaidd@sirddinbych.gov.uk i gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio ar gyfer hysbysiadau cyllid, hyfforddiant a digwyddiadau.

Efallai y bydd help ar gael ar gyfer eich busnes o'r tudalennau gwe canlynol;

  • Cyllid a grantiau
  • Hyfforddiant a digwyddiadau