Sut i werthu i’r Cyngor

Yn gyffredinol, mae’n ofynnol i unrhyw sefydliad sy’n cymryd rhan mewn proses dendro gystadleuol fod a’r gofynion canlynol, o leiaf, er mwyn bod yn llwyddiannus:

  • Prisiau cystadleuol
  • Datganiadau dulliau cadarn ar gyfer cyflenwi contractau
  • Sefydlogrwydd a chapasiti ariannol sy’n ddigonol i gyflenwi’r contract
  • Dim erlyniadau, cyhuddiadau na thribiwnlysoedd yn parhau yn erbyn y sefydliad na'i gyfarwyddwyr; neu dystiolaeth o gywiro os oes rhai wedi bod
  • Polisïau yswiriant hyd at lefel digonol; neu barodrwydd i gynyddu’r lefel o yswiriant os yw’r cais yn llwyddiannus
  • Personél sydd a'r capasiti ac sy’n gymwys i gyflenwi’r contract
  • Systemau a phrosesau rheoli sy’n sicrhau lefel gyson uchel o safon i gwsmeriaid
  • Polisi iechyd a diogelwch a thystiolaeth o weithrediad llwyddiannus
  • Polisi cydraddoldeb a gwrth wahaniaethu sy’n cydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010, a thystiolaeth o weithrediad llwyddiannus

Gan y bydd y rhan fwyaf o gaffael yn cael ei wneud yn electronig, mae’n holl bwysig bod cyflenwyr wedi eu cofrestru ar y porth cyflenwyr Proactis (gweler ein tudalennau Cofrestrwch i Gyflenwi i’r Cyngor) Bydd hyn yn eich galluogi i gystadlu a chyflwyno tendrau ond bydd hefyd yn rhoi hysbysiadau o gyfleoedd sy’n berthnasol i’ch busnes. Rydym hefyd yn argymell cofrestru ar y porth GwerthwchiGymru sydd hefyd yn rhoi hysbysiadau o gyfleoedd (gweler ein tudalen Cyfleoedd Tendro Cyfredol).

Gwerthu i'r Cyngor - Arweiniad i gyflenwyr a chontractwyr