Benthyciadau Trawsnewid Trefi  

Rydym wedi sicrhau cyllid gan Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru i gynnig benthyciadau buddsoddi cyfalaf i adfywio eiddo yng nghanol ein trefi.

Prif nodau’r cynllun yw lleihau nifer y safleoedd ac eiddo masnachol sy’n cael eu tanddefnyddio a/neu sy’n wag ac wedi bod yn wag am gyfnod hir mewn canol trefi, a chefnogi adferiad economaidd canol trefi. Pwrpas y benthyciad yw gwella neu roi ail-bwrpas i’r eiddo ar gyfer perchnogaeth barhaus i werthu, rhentu neu ailddefnyddio safleoedd gwag.

Mae’r gronfa yn rhan o becyn ehangach o fentrau gan Gyngor Sir Ddinbych i gefnogi canol trefi’r sir a chyfrannu at ymdrechion Rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Beth sydd ar gael?

Mae benthyciadau buddsoddi cyfalaf ar gael i adfywio eiddo yng Nghanol Trefi Sir Ddinbych.

Bydd telerau’r benthyciad, gan gynnwys gwerth a hyd yr ad-daliad, yn cael eu hystyried fesul achos.

Sut i ymgeisio

Os hoffech wneud cais am Fenthyciad Trawsnewid Trefi, bydd angen i chi gysylltu â’n Tîm Datblygu Economaidd i drafod eich cynnig a gofyn am ffurflen gais. Bydd ymgeiswyr yn destun gwiriadau fforddiadwyedd.

Cysylltu â’r Tîm Datblygu Economaidd