Trawsnewid Adeiladau'r Frenhines yn ased cymunedol bywiog

Mae Marchnad y Frenhines wedi bod yn rhan allweddol o dref y Rhyl ers 1902. Gan ddarparu amrywiaeth o ddibenion, o lawr sglefrio dan do, perfformiadau theatr a chyfleoedd manwerthu, mae gan yr adeilad statws personol a fydd yn cael ei ymestyn ymhellach drwy ailddatblygu'r safle.
Ym mis Mawrth 2019, caffaeledd Cyngor Sir Ddinbych (CSDd) nifer o adeiladau cyfagos yng nghanol tref y Rhyl, sy'n wynebu'r promenâd glan y môr, a elwir gyda'i gilydd yn Adeiladau'r Frenhines.
Roedd yr adeiladau a elwid unwaith yng Ngwesty'r Savoy mewn cyflwr adfeiliedig, a’r lloriau uchaf ddim yn cael eu defnyddio (mae'r adeiladau ar lan y môr yn bedwar llawr) a gwagleoedd sylweddol ar y llawr gwaelod.
Rydym wedi datblygu cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer ailddatblygiad defnydd cymysg y safle. Bydd ailddatblygu'r safle hwn nid yn unig yn cael gwared ar ddolur llygad sylweddol, bydd hefyd yn gweithredu fel cysylltydd allweddol, ac yn rhoi gwell hygyrchedd a symudiad rhwng glan y môr a chanol y dref. Mae wedi’i ddisgrifio fel prosiect catalydd allweddol yn adfywiad a llwyddiant economaidd canol tref y Rhyl i'r dyfodol.
- Cam 1: Datblygu neuadd farchnad dan do a gofod digwyddiadau hyblyg, gyda thirweddu allanol cysylltiedig (rhagor o fanylion cam 1 yn atodiad 2)
- Cam 2a: Datblygu adeilad swyddfa 5 llawr ar Heol y Frenhines
- Cam 2b: Datblygu adeilad masnachol/preswyl 5 llawr ar Rodfa'r Gorllewin
- Cam 3: Datblygu adeilad masnachol/preswyl 5 llawr arall ar Rodfa'r Gorllewin (yn amodol ar gaffael eiddo ychwanegol)
Elfennau allweddol cam cyntaf y prosiect yw:
- Datblygu neuadd farchnad dan do i ddarparu 6 ciosg bwyd poeth, 10 stondin farchnad barhaol a 6 stondin farchnad dros dro ychwanegol, a seddi ar gyfer hyd at 200 o bobl i fwyta;
- Datblygu gofod hyblyg a allai ddarparu ar gyfer ystod o ddigwyddiadau gan gynnwys marchnadoedd arbenigol, arddangosfeydd, cerddoriaeth a pherfformiadau theatrig a ffilm;
- Toiledau a bar a fydd yn gwasanaethu'r ardaloedd uchod, gan arwain at adeilad (a fydd yn cynnwys y neuadd farchnad a'r gofod digwyddiadau a nodir uchod) sy'n darparu gofod 1,450 metr sgwâr (gyda'r lefel lledlawr, cyfanswm o ychydig yn llai na 2,000 metr sgwâr) ar gyfer y cam hwn o'r datblygiad;
- Gosod tanc gwanhau sy'n rhan allweddol o'r isadeiledd sydd ei angen ar Dŵr Cymru i sicrhau nad yw'r rhwydwaith ddraenio bresennol yn cael ei gor-redeg yn ystod stormydd gan ddŵr wyneb sy'n deillio o'r datblygiad. Bydd y tanc gwanhau yn gwasanaethu cam 1 yn ogystal â chamau hwyrach, ond mae’n rhaid ei osod fel rhan o gam 1 er mwyn osgoi aflonyddwch i'r tir a chostau ychwanegol sylweddol yn ystod camau hwyrach.
- Creu gofod digwyddiadau / marchnad allanol 1,765 metr sgwâr i orllewin yr adeilad a chysylltiad pwysig at arfordir Rhodfa'r Gorllewin;
- Gwaith tirweddu dros dro i greu gofod 2,564 metr sgwâr lle dymchwelwyd adeiladau, cyn datblygu yn y dyfodol;
- Cadw 20 o lefydd parcio presennol y cyngor (18 + 2 anabl)
Adeiladau'r Frenhines: Cerrig milltir y prosiect
Cerrig Milltir | Cwblhawyd / Rhagolygon |
Caffael adeiladau'r Frenhines |
Mawrth 2019 |
Adnewyddu Maes Parcio Tanddaearol y Rhyl |
Ebrill 2019 |
Cyflwyno Hysbyseb Cymeradwyaeth Ymlaen Llaw ar gyfer dymchwel |
Awst 2020 |
Sesiwn Friffio'r Cabinet |
Medi 2020 |
Grŵp Buddsoddiad Strategol |
Medi 2020 |
Diweddariad Aelodau'r Rhyl |
Medi 2020 |
Cabinet |
Medi 2020 |
Grŵp Rheoli Asedau |
Medi 2020 |
Sicrhau caniatâd i ddymchwel |
Medi 2020 |
Dechrau'r broses/ymgynghoriad Cyn Cais Cynllunio |
Medi 2020 |
Cyflwyno cais cynllunio |
Ionawr 2021 |
Dechrau'r gwaith dymchwel a gwaredu asbestos |
Ionawr 2021 |
Dechrau'r broses o ddewis prif gontractwr |
Mai 2021 |
Penodi prif gontractwr ar gyfer y gwaith adeiladu |
Awst 2021 |
Sicrhau caniatâd cynllunio |
Medi 2021 |
Cwblhau'r gwaith dymchwel |
Ionawr 2022 |
Dechrau Cam 1 o'r gwaith adeiladu |
Awst 2022 |
Cwblhau Cam 1 o'r gwaith adeiladu |
Gorffennaf 2023 |
Cwblhau gwaith gosod a phrofion gweithredol |
Awst 2023 |
Agor y Neuadd Farchnad/Gofod Digwyddiadau am fusnes |
Awst 2023 |