Adfywio'r Rhyl: Hen adeilad Costigans
Cyflwyno gofod cydweithredu newydd ar gyfer mentrau newydd yn hen adeilad Costigans
Nod y prosiect hwn yw ailddatblygu'r adeilad lled-ddiffaith 'Costigans' gyferbyn â'r Orsaf Drenau a dod ag ef yn ôl i ddefnydd cynhyrchiol.
Bydd yn darparu llety busnes modern, o ansawdd uchel a hyblyg wedi'i wasanaethu gan fand eang cyflym iawn a fydd yn addas ar gyfer cenhedlaeth newydd o fusnesau bach, gan eu hannog i sefydlu a defnyddio canol y dref fel eu man sefydlog.
Ein dyhead yw creu canolbwynt "cydweithredu" prysur i entrepreneuriaid yn y sector digidol a fydd yn creu mwy o swyddi o ansawdd gwell yng nghanol y dref.