Canol Tref y Rhyl Gweledigaeth: Meysydd Ffocws Allweddol

Tir y Cyhoedd

Mae ymddangosiad yr amgylchedd yn allweddol i sut mae pobl yn teimlo am le. Ar hyn o bryd, mae Canol Tref y Rhyl yn dioddef o dir y cyhoedd gwael. Mae hyn yn bennaf oherwydd diffyg gwyrddni, blaenau siopau wedi dirywio ac adeiladau wedi'u hesgeuluso, dodrefn stryd o ansawdd gwael ac arwyddion gyda llawer o annibendod ac arddulliau nad ydynt yn gweddu.

Ein nod yw creu lle atyniadol, diogel a chroesawgar, lle mae pobl eisiau treulio mwy o amser. Rydyn ni am greu lle i drigolion fod yn falch ohono. Er mwyn cyflawni hyn, ein nod yw cyflawni'r canlynol:

  • Tir y cyhoedd cydgysylltiedig gydag agwedd gyson a syml tuag at arwynebau stryd a phalmentydd, dodrefn stryd ac arwyddion
  • Cael gwared ar annibendod stryd
  • Mwy o blanhigion a gwyrddni i roi diddordeb drwy'r flwyddyn
  • Mannau agored newydd ac ail-fodelu mannau sy’n bodoli eisoes, gan eu cysylltu i'r môr
  • Celf gyhoeddus eiconig
  • Gwella blaen adeiladau
  • Cynllun goleuo ar gyfer adeiladau a nodweddion allweddol
  • Rhaglen reoli a chynnal a chadw gadarn ar gyfer tir y cyhoedd
Mynediad a Symudiadau

Mae ein profiad o fynd i ganol dref a mynd o'i chwmpas yn chwarae rhan fawr yn ein parodrwydd i'w defnyddio.

Mae'r rhan fwyaf o bobl bellach yn mynd i'r Rhyl ar yr A55 a'r A525, gan ddod i mewn i ganol y dref o'r de dros y llinell reilffordd, cyn mynd drwy gyfres o gyffyrdd â goleuadau traffig.

Nid yw'r system draffig bresennol yn ymdopi'n dda â hyn gan iddi gael ei hadeiladu i ddarparu ar gyfer llif traffig trwm o'r dwyrain i'r gorllewin, ar adeg pan oedd Ffordd Arfordirol yr A548 yn brif fynediad i'r Rhyl.

Mae'r system un ffordd gymharol gymhleth yn gwneud llwybrau i barcio ac i lan y môr yn gylchedig. Mae ymwelwyr yn aml yn cwyno am y diffyg arwyddion clir. I fynd i'r afael â hyn, rydym am wneud y canlynol:

  • Nodi trefniadau gwell ar gyfer llif traffig cyffredinol i gael mynediad at ganol y dref
  • Ystyried agor o leiaf rhywfaint o'r Stryd Fawr i draffig sy'n symud tua'r gogledd
  • Gwella cysylltedd i gerddwyr a beicwyr rhwng glan y môr a chanol y dref
  • Ailgynllunio'r ardal o briffordd yn llwyr rhwng canol y dref a glan y môr, gan symleiddio'r cynllun presennol ac ailddyrannu gofod y ffordd i gerddwyr a beicwyr
  • Gwella arwyddion cyfeiriadol a darpariaeth o ran parcio o amgylch canol y dref yn dilyn newidiadau i lif traffig
Manwerthu a Masnachol

Mae Canol Tref y Rhyl, fel llawer eraill ar draws y DU, wedi gweld ei stryd fawr yn dirywio dros y 15 mlynedd diwethaf.

Mae pwysau ar gyllidebau cartrefi, newidiadau i arferion gwariant defnyddwyr a chystadleuaeth o leoedd eraill wedi lleihau nifer y bobl sy'n defnyddio canol y dref, gan ei gwneud hi'n anoddach i fusnesau oroesi.

Nid dyma lle'r ydyn ni am fod. Rydyn ni eisiau dod â chynnydd sylweddol i nifer yr ymwelwyr â chanol y dref drwy wneud y canlynol:

  • Cryfhau canol y drefn gyda brandiau sy'n gweddu i'r Rhyl newydd
  • Cefnogi caffis a siopau coffi annibynnol, bwytai teuluol a chynigion bwyd stryd o ansawdd
  • Annog bariau o ansawdd da (gydag ymddygiad da) a cherddoriaeth fyw
  • Datblygu amrywiaeth ehangach o weithgareddau hamdden poblogaidd
  • Gwella nifer y swyddi sy'n talu'n well sydd i'w cynnig yng nghanol y dref
  • Creu mannau newydd, modern i bobl sefydlu a datblygu busnes ynddyn nhw

Bydd yr holl bethau hyn yn helpu i ddod ag ystod eang o gwsmeriaid yn ôl, gydag incymau gwario uwch a mwy o wario.

Preswyl

Dylai canol trefi llwyddiannus gynnwys cymysgedd o wahanol ddefnyddiau sy'n helpu i greu bywyd a gweithgaredd o'r bore i'r nos. Nid yn unig y mae hyn yn helpu i greu lle amrywiol a bywiog i fyw ynddo, ond mae hefyd yn cyfrannu at well canfyddiadau o ran diogelwch.

Mae datblygiad preswyl yng nghanol trefi yn rhan hanfodol o greu'r gymysgedd gywir.

Ein nod yw troi Canol Tref y Rhyl yn rhywle lle mae mwy o bobl eisiau byw drwy ddarparu dewis o gartrefi o ansawdd. Rydym am wneud hyn drwy ddefnyddio gofod gwag neu drwy wneud defnydd gwell o ofod canol y dref sydd eisoes yno. Rydyn ni eisiau:

  • Creu amgylchedd sy'n galluogi ac yn annog buddsoddiad sector preifat
  • Codi ansawdd addasiadau preswyl drwy sefydlu mannau modern a chyfoes
  • Annog y defnydd o loriau uwch gwag at ddibenion preswyl
  • Annog ansawdd dyluniad uwch drwy hyrwyddo creadigrwydd
  • Gwella cymeriad ac ansawdd canol y dref i godi gwerthoedd eiddo hirdymor
  • Annog ailddatblygiad ar safleoedd addas yng nghanol y dref at ddefnydd preswyl newydd
Codi Safonaus

Mae gwaith cynnal a chadw a glendid canol ein trefi yn dylanwadu'n gryf ar ganfyddiadau pobl ohonynt fel lleoedd i fyw, ymweld â nhw, siopa a buddsoddi.

Mae sicrhau bod adeiladau, strydoedd a mannau agored yng nghanol y dref yn cael eu cynnal a'u cadw'n dda a'u gofalu amdanynt yn rhan hanfodol o'r weledigaeth hirdymor ar gyfer y Rhyl. Er mwyn cyflawni hyn byddwn yn gwneud y canlynol:

  • Ymgysylltu â busnesau a pherchnogion eiddo er mwyn iddyn nhw ddeall eu cyfrifoldebau cyfreithiol a gwella golwg eu hadeiladau
  • Cymryd agwedd gadarn at orfodi yng nghanol y dref. Ni fyddwn yn oedi cyn defnyddio amrywiaeth o bwerau cyfreithiol i sicrhau bod eiddo'n cael ei gynnal a'i gadw i lefel dderbyniol
  • Sicrhau bod ein dull gorfodi yn gydlynol, yn gyson ac yn dryloyw
  • Gweithio'n agos gydag Ardal Gwella Busnes y Rhyl i wella a chynnal a chadw glanweithdra canol y dref
Adeiladau'r Frenhines

Mae adeiladau Marchnad y Frenhines a hen safle Gwesty Savoy wedi'u nodi fel prosiect catalydd allweddol wrth adfywio canol tref y Rhyl.

Mae'r cynigion yn cynnwys marchnad gyfoes yng nghanol y safle ynghyd â chymysgedd o allfeydd manwerthu a bwyd o ansawdd uchel, swyddfeydd, fflatiau a mannau agored wedi'u cysgodi rhag y tywydd.

Bydd y datblygiad newydd yn gweithredu fel cysylltydd allweddol, yn rhoi gwell hygyrchedd a symudiad rhwng glan y môr a chanol y dref. Bydd hefyd yn dod â mwy o ymwelwyr i gefnogi busnesau lleol.

Y 4 problem fwyaf

Mae Gweledigaeth Canol Tref y Rhyl wedi nodi'r pedair problem fwyaf sy’n wynebu'r Rhyl:

1. Mae'r dref wedi anghofio am y traeth

Mae tarmac eang The Parade a rhes tameidiog o atyniadau hamdden ar hyd y glannau yn torri canol y dref a'i thraeth.

Traeth y Rhyl
2. Tref â dwy hanner

Yn fras, mae'r dref wedi'i rhannu'n ardaloedd llai cyfoethog i'r gorllewin a'r rhai ag incwm uwch i'r dwyrain. Mae llawer o bobl leol sydd ag arian i'w wario yn tueddu i osgoi canol y dref a mynd i rywle arall.

Y Rhyl
3. Dirywiad mewn manwerthu

Mae nifer o fanwerthwyr cenedlaethol mwy wedi gadael y dref, gan adael nifer cynyddol o siopau preswyl ac adeiladau gwag ar ôl. Mae tanfuddsoddi hirdymor wedi gwanhau'r cynnig siopa a chyflwr nifer o adeiladau masnachol.

Stryd Fawr y Rhyl
4. Mae'r Rhyl wedi colli ei hunaniaeth

Unwaith yn dref glan môr Fictoraidd osgeiddig ac yn gyrchfan glan môr ffyniannus ym Mhrydain, mae cwymp y Rhyl o'i hanterth 'bwced a rhaw' wedi bod yn ddramatig. Mae dirywiad twristiaeth dros y ddau ddegawd diwethaf wedi taro'r Rhyl yn galed. Fodd bynnag, mae'r dref bellach yn wynebu trobwynt cyffrous yn ei datblygiad wrth iddi geisio dileu canfyddiadau negyddol ac ailddiffinio ei hun fel tref lan môr wych unwaith eto.

Theatr y Rhyl

Y 4 ased mwyaf

Mae Gweledigaeth Canol Tref y Rhyl wedi nodi pedwar ased mwyaf y Rhyl:

1. Y traeth

Gwnaethpwyd y llun hwn gan David Cox ym 1854. Er ei fod dros 150 mlwydd oed, mae'n amlwg taw'r Rhyl ydyw o hyd. Mae'r milltiroedd o draethau tywodlyd euraidd a’r awyr pelydrol; a'r man agored helaeth a glan y môr yn dal i fod yno.

Traeth y Rhyl
2. Patrwm Stryd Trefol

Yn wahanol i lawer o drefi ledled y wlad, mae patrwm stryd hanesyddol y Rhyl yn parhau i fod yn gyfan. Fe'i cynlluniwyd i bobl fyw ynddi, a chanlyniad hyn yw gwead trefol cryno, hygyrch a hawdd ei ddeall, gyda golygfeydd trawiadol tuag at y môr ac i'r bryniau y tu hwnt.

Y Rhyl
3. Hygyrchedd

O'r orsaf i'r môr mewn pum munud, mae'r Rhyl yn dref y gellir cerdded drwyddi draw lle nad oes angen car arnoch i fynd o gwmpas.

Y Rhyl
4. Cysylltedd

Mae'r Rhyl wedi ei chysylltu'n wych gyda chludiant cyhoeddus a'r rhwydwaith o ffyrdd amgylchynol. Mae ganddi hefyd gysylltedd beicio rhagorol ac mae'n rhan o lwybr Beicio Cenedlaethol 5 ar hyd arfordir Gogledd Cymru.

Dulliau teithio amrywiol: Trên, bws, car, beic