Bydd Cyngor Sir Ddinbych, mewn partneriaeth gyda Balfour Beatty, yn cynnal dwy sesiwn wybodaeth yng Nghanolfan Ieuenctid y Rhyl, a fydd yn rhoi cyfle i'r cyhoedd weld dyluniad y Parc Drifft newydd yn y Rhyl.
Mae croeso i breswylwyr a busnesau lleol rannu eu barn a'u hawgrymiadau ar y dyluniad. Os nad ydych chi'n gallu mynychu unrhyw un o'r sesiynau, llenwch ein ffurflen ar-lein isod er mwyn dweud eich dweud.
Parc Drifft Y Rhyl: Holiadur Ymgysylltu â'r Cyhoedd
Dewisiadau Dylunio Maes Chwarae Glân Môr Parc Drifft yn y Rhyl
Cynllun A: Thema Llong a'r Môr
Camwch i mewn i'r môr gyda'r dolffiniaid a chwaraewch ar lan môr Y Rhyl.
Mae'r dyluniad yma'n cynnig amrywiaeth o gyfleoedd chwarae a gweithgareddau i bob oedran o 0-14 oed. Mae wedi'i ddylunio i bob plentyn gyda chryfderau, gallu a hoffterau gwahanol i'w mwynhau. Yma fe gewch chi chwarae sy’n hygyrch o’r llawr, gemau rhyngweithiol, chwarae cymdeithasol a chwarae dychmygol ar draws yr holl safle. Archwiliwch y llong ffrigad sy’n hygyrch yn ôl grisiau Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd a rhowch gynnig ar ei llywio! Gall ieuenctid roi cynnig ar y tŵr moroedd anferth heriol drwy ddefnyddio eu sgiliau dringo a chyd symudiad i gyrraedd pen y tŵr a llithro i lawr y llithren tiwb enfawr sydd dros 6 metr o uchder. I fyny'r tŵr fe fydd yna weithgareddau gwahanol ar hyd y ffordd a man i ymlacio am foment o seibiant ac ymlacio.
Mae dolffiniaid, siarcod a môr lewod ar y safle yma felly gallwch eu reidio drwy’r dŵr, rhoi cynnig ar 5 math gwahanol o siglen i bob defnyddiwr, bownsio ar y trampolîn neu sigo ar y ‘flexus’. Mae yna hefyd gylchfan fflat i bawb ei defnyddio gyda’i gilydd a llwybr cydbwysedd i brofi cydbwysedd a chyd symudiad. Gall y bloc dringo creigiau’r môr brofi sgiliau dringo, a gall y rhaff siglo môr ffurfio darn chwarae cymdeithasol gwych ar gyfer hyd at 10 defnyddiwr ar yr un pryd! Mae yna sawl man i eistedd i gael picnic ac ymlacio wrth y môr hefyd.
Cynllun A: Thema Llong a'r Môr (PDF, 2.1MB)
Cynllun B: Thema'r traeth
Chwaraewch ar y traeth yn Y Rhyl drwy'r flwyddyn!
Mae’r dyluniad yma’n cynnig profiad deinamig â thema’r traeth gyda chyfleoedd chwarae a gweithgareddau i bob oedran o 0-14 oed. Mae wedi’i ddylunio i bob plentyn gyda chryfderau, gallu a hoffterau gwahanol i’w mwynhau. Yn y maes chwarae yma mae yna gyfleoedd i chwarae ar y ddaear ar gyfer hygyrchedd megis ein byrddau gemau traeth, gan symud i fyny i bethau dringo mwy heriol a chwarae ar uchder i brofi pa mor ddewr ydych chi! Rydym wedi cynnwys grisiau hygyrch Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd i fyny i dŵr y goleudy lle gallwch chi fwynhau chwarae synhwyraidd a dychmygus cyn penderfynu teithio i lawr y llithren tiwb ENFAWR, neu’r llithren hanner uchder, gan lithro yn ôl i lawr i’r tywod.
Fe allwch chi neidio a rocio ar y fflipfflops, creaduriaid y môr a’r cranc preswyl, a hyd yn oed gyrru bygi tywod gyda ffrindiau! Byddwch yn ofalus o’r gwylanod! Mae yna gylchfan fflat cynhwysol i bawb ei fwynhau gyda’i gilydd, ac os hoffech chi wefr droellog arall, rhowch gynnig ar y carwsél tipi troellog neu’r fowlen troi. Rydym ni wedi cynnwys 5 math gwahanol o siglen i bawb roi cynnig arnynt, ar eich pen eich hun neu gyda phobl eraill. I gael mwy o her ac i edrych allan ar y môr, fe allech chi ddringo tŵr yr achubwyr bywyd ac yna llithro i lawr y polyn pan mae angen i chi fynd i achub bywyd!
Rydym ni wedi sicrhau ein bod yn cynnwys nifer o fannau eistedd i gael picnic ar ein meinciau tyweli traeth streipïog.
Cynllun B: Thema'r traeth (PDF, 2.1MB)
Gweler hefyd
Newyddion: Y Cyngor yn gofyn am farn y cyhoedd ar ddyluniad newydd Parc Drifft