Cynllun Amddiffyniad Arfordirol Canol Y Rhyl: Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio

Mae'r cyfnod ymgynghori cyn ymgeisio ar gyfer Cynllun Amddiffyn Arfordir Canol y Rhyl nawr wedi dod i ben.

Mae cynigion cynllun Amddiffyniad Arfordirol Canol y Rhyl yn cynnwys y gwaith canlynol:

  • Adeiladu oddeutu 1.45km o ddeunyddiau atal erydu carreg ac atgyweiriadau concrid i’r asedau amddiffyniad arfordirol presennol o Splash Point i’r SeaQuarium (adran ddwyreiniol y cynllun). Byddai’r deunyddiau atal erydu carreg yn cynnwys gosod cerrig mawr ar waelod y strwythurau amddiffyn arfordirol presennol.
  • Adeiladu oddeutu 750m o wal gynnal grisiog concrid newydd, o’r SeaQuarium i Barc Drifft (adran orllewinol y cynllun).
  • Codi/lledu’r promenâd a wal amddiffyn môr ar gefn y promenâd, dros hyd o tua 750m rhwng y SeaQuarium a Pharc Drifft.
  • Mynedfeydd grisiog newydd i gerddwyr i’r traeth trwy gyda wal gynnal grisiog concrid, i ddisodli’r mynedfeydd presennol i’r traeth (ar ran orllewinol y cynllun).
  • Dau fynedfa grisiog newydd i’r traeth trwy ddeunyddiau atal erydu (ar ran ddwyreiniol y cynllun).
  • Creu ramp mynediad newydd i gysylltu’r promenâd gyda’r traeth ger y SeaQuarium.
  • Ymestyn y gollyngfeydd draenio presennol a gwaith diogelu i unrhyw ollyngfeydd a gaiff eu gorchuddio gan y wal gynnal newydd.

Roedd y cyfnod ymgynghori ar agor am gyfnod o 28 diwrnod rhwng 12 Ionawr 2022 a 23.59 ar 09 Chwefror 2022.

Dogfennau cynllunio

Roedd y lluniadau/dogfennau isod yn ddogfennau cynllunio drafft at ddibenion yr ymgynghoriad cyn ymgeisio.

Mae'n bosibl bod y rhain bellach wedi'u disodli gan gynnwys fersiynau wedi'u diweddaru yn y cais cynllunio a gyflwynwyd.

Mae'r cais cynllunio ar gael i'w weld ar-lein.

Cyfeirnod y cais yw: 45/2022/0271.

Dogfennau cais cynllunio - Ar-lein

Gellir gweld holl wybodaeth ar y prosiect, gan gynnwys dyluniadau, mapiau ac asesiadau ar waelod y dudalen hon.

Mae hyn yn cynnwys:

  • Dogfennau Ymgynghori
  • Lluniadau trefniant cyffredinol
  • Trawsluniau nodweddiadol a manylion
  • Datganiad Cynllunio, Dylunio a Mynediad
  • Datganiad Amgylcheddol (Crynodeb Annhechnegol)
  • Datganiad Amgylcheddol
  • Atodiadau Technegol Datganiad Amgylcheddol
  • Ardal Lliniaru Ecolegol Traeth Barkby
  • Dogfennau cynllunio eraill (cyffredinol)

Dogfennau cais cynllunio - Copïau Caled

Roedd copïau papur o ddogfennau'r cais cynllunio ar gael i'w gweld yng Nghanolfan Groeso'r Rhyl.

Arddangosfa gyhoeddus

Fe wnaethom gynnal arddangosfeydd cyhoeddus i ddangos ein cynigion drafft yn ystod y cyfnod ymgynghori statudol cyn ymgeisio.

Cynhaliwyd yr arddangosfeydd cyhoeddus yn Neuadd Dref y Rhyl, 22 Wellington Road, Y Rhyl, Sir Ddinbych, LL18 1HZ rhwng 2pm a 7pm ar 25 a 26 Ionawr 2022.

Roedd aelodau o dîm y prosiect ar gael i drafod cynigion y cynllun yn ystod yr arddangosfa gyhoeddus.

Manylion Cyswllt

I gysylltu â’r tîm prosiect, defnyddiwch y manylion isod:

Dolenni dogfennau cais cynllunio

Mae dolenni i’r dogfennau canlynol wedi’u darparu isod.

Dogfennau Ymgynghori

Lluniadau trefniant cyffredinol

Trawsluniau nodweddiadol a manylion

Datganiad Cynllunio, Dylunio a Mynediad

CR-MMD-00-00-RP-T-0012 - Datganiad Cynllunio, Dylunio a Mynediad / Planning Design and Access Statement (PDF, 1.6MB)

Datganiad Amgylcheddol (Crynodeb Annhechnegol)

CR-MMD-00-00-RP-EN-3027_C01 ES Vol 3 Crynodeb Annhechnegol / Non Technical Summary (PDF, 2MB)

Datganiad Amgylcheddol

CR-MMD-00-00-RP-EN-3016 - Datganiad Amgylcheddol Canol y Rhyl, Cyfrol 1 / Central Rhyl Environmental Statement Volume 1 (PDF, 50MB)

Atodiadau Technegol Datganiad Amgylcheddol

Ardal Lliniaru Ecolegol Traeth Barkby

CR-MMD-00-XX-RP-EN-3025_C01 - Adroddiad Ardal Lliniaru Ecolegol Barkby / Barkby Ecological Mitigation Area Report (PDF, 12.5MB)

Dogfennau cynllunio eraill (cyffredinol)